top of page

Beth yw Gwarchodfa Biosffer?

River Dyfi winter
Red kite
Osprey
horse logging
Windfarm Midwales

Ardal lle mae pobl leol yn gweithio gyda bioamrywiaeth a’i defnydd cynaliadwy yw Gwarchodfa Fiosffer. Dynodir ardaloedd o’r fath gan UNESCO (Sefydliad Addysgol, Gwyddonol a Diwylliannol y Cenhedloedd Unedig).

 

Mae gwarchodfeydd biosffer yn ardaloedd ecosystemau tir a môr neu’n gyfuniad o’r ddau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol o fewn fframwaith rhaglen Dyn a’r Biosffer (MAB) UNESCO.

 

Maent yn cael eu henwebu gan lywodraethau cenedlaethol a rhaid iddynt gyrraedd tri nod:

Cadwraeth – yn gwarchod bywyd gwyllt, cynefinoedd a’r amgylchedd.

Datblygu – yn hybu economi a chymuned gynaliadwy;

Addysg – yn cefnogi ymchwil, yn monitro ac yn adeiladu rhwydweithiau byd-eang i rannu a dysgu.

 

Safleoedd rhagoraeth yw Gwarchodfeydd Biosffer i feithrin integreiddio cydgordiol pobl a natur ar gyfer datblygu cynaliadwy drwy gyfranogi, gwybodaeth, lles, gwerthoedd diwylliannol a gallu cymdeithas i ymdopi â newid, gan gyfrannu fel hyn i ‘Nodau Datblygu’r Mileniwm’.

Fideo UNESCO yn esbonio Biosfferau

Bioamrywiaeth a

Datblygu cynaliadwy

Mae gwarchodfeydd Biosffer wedi’u cynllunio i ddelio gydag un o’r cwestiynau pwysicaf sy’n wynebu’r Byd heddiw:

Sut allwn ni ailgymodi cadwraeth bioamrywiaeth ac adnoddau biolegol gyda’u defnydd cynaliadwy?

Mae Biosfferau UNESCO yn ysbrydoli cymunedau i gydweithio wrth greu dyfodol y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono, gan gysylltu pobl â natur a threftadaeth ddiwylliannol wrth gryfhau economïau lleol.

Dylai pob gwarchodfa fiosffer gynnwys tair elfen:

 

Un neu ragor o ardaloedd craidd, sy’n safleoedd gwarchodedig at gadw amrywiaeth fiolegol, monitro ecosystemau, gwneud ymchwil ac at ddefnydd addysgol.

 

Parth clustogi a ddynodir yn glir o gwmpas neu’n agos i’r ardaloedd craidd ac sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau sy’n gydnaws ag arferion ecolegol cadarn, gan gynnwys addysg amgylcheddol, hamdden, ecodwristiaeth ac ymchwil gymhwysol a sylfaenol.

 

Ardal bontio hyblyg, neu ardal gydweithredu, a all gynnwys amrywiaeth o weithgareddau amaethyddol, aneddiadau a sawl defnydd arall a lle mae cymunedau lleol, asiantaethau rheoli, gwyddonwyr, sefydliadau anllywodraethol, grwpiau diwylliannol, buddiannau economaidd a rhanddeiliaid eraill yn cydweithio i reoli a datblygu adnoddau’r ardal yn gynaliadwy.

bottom of page