top of page

Bydd Biosffer Dyfi’n cael ei gydnabod a'i barchu yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol am amrywiaeth ei harddwch naturiol, ei dreftadaeth a’i fywyd gwyllt, ac am ymdrechion ei bobl i wneud cyfraniad cadarnhaol i fyd mwy cynaliadwy. Bydd yn gymuned hyderus, iach, gofalgar a dwyieithog, gyda chefnogaeth economi gref, wedi ei gwreiddio'n lleol.

Gwarchodfa Biosffer UNESCO

River Dyfi estuary
Bleo mae o?

Map o'r DU

Dyfi Biosphere boundary

Map o Gymru

Map o'r Biosffer Dyfi
Map of Dyfi Biosphere
Hanes y broses ymgeisio

Dynodwyd rhan isaf Dyffryn Dyfi yn Warchodfa Biosffer am y tro cyntaf yn yr 1970au, ond roedd rheolau newydd yn yr 1990au yn golygu bod yn rhaid i safleoedd ail–ymgeisio o dan feini prawf newydd. Yn dilyn ymgynghoriad lleol helaeth, gofynnodd Partneriaeth Biosffer Dyfi i UNESCO am ail-gofrestru ardal llawer yn fwy. Cyhoeddodd Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaladwyedd a Thai, gytundeb UNESCO ym Mehefin 2009.

Ymgynghoriad

Cynhaliwyd Ymgynghoriad cyhoeddus yn 2007.

Cais i UNESCO

Anfonodd Partneriaeth Biosffer Dyfi’r cais am ail-gofrestru i UNESCO ym mis Chwefror 2008.

Mae’n cynnwys gwybodaeth fanwl am y dyffryn, ei dreftadaeth naturiol a diwylliannol a’i bobl. Ynddo hefyd mae awgrymiadau cychwynnol am y modd y gall y gymuned gymryd rhan a chael budd o’r cyfleoedd a gynigir.

Lawrlwythwch y dogfennau isod

Crynodeb yw            o sut mae’r ardal yn cwrdd â meini prawf y cofrestriad ac mae’n cynnwys mapiau lleoliad a rhanbarthu

Mae           yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth am yr ardal, yn cynnwys yr amgylchedd a’r economi leol, ynghyd â chynigion ar gyfer cydlynu’r fenter gyffrous hon.

Lawrlwythwch yr atodiadau
Aberystwyth old college

Yn ôl cyfrifiad 2011, mae'n gartref i 26,100, gyda 41% ohonynt yn gallu siarad Cymraeg. Mae 12,800 (gan gynnwys myfyrwyr) yn byw yn Aberystwyth;

Mae Biosffer Dyfi

Yn mesur 840 cilomedr sgwâr, gyda 762 yn dir a 78 yn fôr

Gweledigaeth Biosffer Dyfi:

Yn cynnwys rhannau o ardaloedd awdurdodau lleol Gwynedd, Ceredigion a Phowys, yn ogystal â rhan o Barc Cenedlaethol Eryri:

Mae gan Fiosffer Dyfi ardal graidd sy’n cynnwys tri phrif gynefin gwarchodedig:

 

1. Cors Fochno (ACA, SoDdGA) – un o’r cyforgorsydd gorau ym Mhrydain

2. Coed Cwm Einion (ACA, SoDdGA) – coetir llydanddail cymysg lled-naturiol hynafol

3. Pen Llŷn a’r Sarnau (ACA) – ardal sy’n cynnwys môr, arfordir a moryd sy’n cefnogi amrywiaeth eang o wahanol gynefinoedd a bywyd gwyllt morol.

Terminoleg

ACA - Ardal Cadwraeth Arbennig

SoDdGA - Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig

Yn ogystal â’r weledigaeth ac amcanion strategol, cytunwyd ar gyfres o egwyddorion. Mae’r egwyddorion a’r dyheadau fydd yn arwain gweithgareddau cysylltiedig â Biosffer Dyfi Biosphere (“Dyma’n ffordd ni o wneud pethau – beth amdanoch chi?”) fel a ganlyn:

1. Mae pobl – eu hagweddau a’u gweithgareddau – yn ganolog i’r broses Biosffer.

2. Mae Biosffer Dyfi’n fan lle mae teimlad o ffyniant ymhlith y bobl yn cael ei wella, lle mae pobl yn derbyn y grym i gymryd rhan mewn trafodaethau, gwneud penderfyniadau a chyd-gyflawni

3. Swyddogaeth y llywodraeth a sefydliadau statudol yw hwyluso datblygu cynaliadwy er mwyn annog a galluogi pobl i gymryd cyfrifoldeb.

4. Mae Biosffer Dyfi’n ardal enghreifftiol, yn gosod meincnod ar gyfer bywyd “gwyrdd” dwyieithog.

5. Mae ein heconomi’n dod yn fwy hunan-ddibynnol ac yn llai carbon-ddwys, wedi’i seilio gan fwyaf ar ddiwylliant lleol, adnoddau, cynnyrch ac asedau amgylcheddol.

6. Mae newid adeiladol yn digwydd, bron yn anfwriadol, o ganlyniad i warchod, cryfhau a dathlu elfennau bywyd a’r byd y mae’r gymuned yn eu gwerthfawrogi ac yn dymuno’u trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.

Egwyddorion a dyheadau
DB vision

Cliciwch i chwyddo i mewn ar y map isod

bottom of page