top of page

Cerdded yn y Biosffer

Cerdded, Bws a Thrên
Ehanga dy orwelion

Mae yma nifer o warchodfeydd natur pwysig, gwastadedd glaswellt gwlyb, morfeydd heli, coetiroedd hynafol, llynnoedd, llwybrau cenedlaethol, llwybrau arfordirol a mynyddoedd i’w chwilota ... a hyn i gyd o fewn Biosffer Dyfi. 

Does dim rhyfedd felly bod bywyd gwyllt yn ffynnu yma. Gellir gweld dolffiniaid trwynbwl o draethau Aberystwyth; mae gweilch y pysgod yn magu yng Nghors Dyfi; mae’r bod tinwen, yr hebog tramor a’r cudyll bach yn hela yng Nghors Fochno, mae pibyddion coesgoch a chornchwiglod yn magu yng ngwarchodfa RSPB Ynys-hir ac os ydych yn ffodus iawn gallwch gael cip ar loÿnnod byw prin yng ngwarchodfa natur coetir Abercorris. 

Dyw’r rhan fwyaf o bobl ddim wedi deall hyn eto, felly ’dyw hi ddim yn anarferol cael eich hun yn mwynhau’r diffeithwch gyda neb arall i ddifetha’r olygfa. Felly dewch â’ch esgidiau cerdded, eich sbieinddrych ac ymgollwch yn llwyr yn y lle hwn sydd llawn harddwch naturiol. 

Cerdded, Bws a Thrên
Bu prosiect Trywydd Iach (Iechyd Awyr Agored) Biosffer Dyfi yn gweithio gyda phedair cymuned yn ystod 2022 i greu llwybrau cerdded sy’n hygyrch ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae mapiau sy'n dangos y llwybrau hyn ar gael o Ganolfan Groeso Aberystwyth yn ogystal ag ar-lein.

Mae’r llwybrau byr yn helpu pobl i archwilio'n tirluniau prydferth a’n cynefinoedd naturiol heb gar.

Gobeithiwn y byddant yn ehangu eich gorwelion ac yn gwella eich lles wrth warchod yr amgylchedd a chefnogi gwasanaethau bws a thrên hanfodol.

Ewch i'r dudalen hon

Lleoedd i Gerdded a gweld natur yn y Biosffer 

Pam na fentrwch chi allan i archwilio tirweddau bendigedig Biosffer Dyfi! Prosiect yw Darganfod Dyfi sydd wedi gwella a chodi arwyddion ar gyfres o lwybrau troed a llwybrau march trwy’r holl Fiosffer. Mae ar gael yn rhad ac am ddim ar ffurf pecyn o daflenni cerdded, a gallwch hefyd lawrlwytho’r rhain isod.

Map o deithiau cerdded – cliciwch y map i lawrlwytho’r teithiau 
Fideo byr am gerdded yn yr ardal

Dathlwch hanes diwylliannol a naturiol Cymru ar hyd 135 milltir Llwybr Glyndŵr. Chwilotwch dir amaeth bryniog, gweundir agored, coedwigoedd, llynnoedd a chronfeydd dwr ac ail-fyw anturiaethau Owain Glyndŵr.

Mae Llwybr Glyndŵr yn mynd â chi i rai o’r
nodweddion tirwedd gorau yng Nghymru, yn cynnwys Bryniau Maesyfed a’u tawelwch, glannau Cronfa Ddwr Clywedog a Phumlumon dan ei orchudd o rug. Mae golygfeydd trawiadol dros Gadair Idris, Llyn Efyrnwy, Mynyddoedd Cambria a’r Golfa. Mae’r llwybr yn cyr- raedd ei fan uchaf ar Foel Fadian (1530troedfedd/510m), ac oddi yno ar ddiwrnod clir mae’r golygfeydd yn yme- styn allan ar hyd yr urddasol ddyffryn Dulas i Fachynlleth a’r môr.

Mae’r Llwybr hwn yn mynd â chi trwy dir amaethyddol go iawn. Un o brif atyniadau’r Llwybr yw’r hyfrydwch o gerdded trwy dir sy’n cael ei weithio; ’does dim yn artiffisial ynglyn â’r dirwedd yma. 

O fewn ardal Biosffer Dyfi mae Llwybr Arfordir Cymru’n ymestyn o Aberystwyth i Ynyslas, a gellir ei gerdded fesul rhan neu os ydych yn teimlo’n anturus beth am fentro’r holl ffordd! O’r llwybr troed sy’n rhedeg ar hyd y clogwyni, Cors Fochno a’r traethau mae yna olygfeydd syfrdanol, bywyd gwyllt a bywyd môr, yn cynnwys dolffiniaid trwynbwl a brain coesgoch. 

Teithiau Llwybr Arfordir Cymru 

 

 

 

Borth i Aberystwyth

9.5 cilomedr / 6 milltir

Dyma ddarn diddorol a heriol o’r Arfordir Treftadaeth ac mae angen cryn dipyn o ddringo mewn mannau. Wrth gerdded o orsaf i orsaf, gallwch ddod nôl ar
y trên os byddwch wedi blino. 

Aberystwyth i Tywyn

2.7 cilomedr / 1.7 milltir

Ceir dau hanner tra gwahanol i’r rhan hon o’r llwybr, gyda’r rhan o Aberystwyth i’r Borth yn Arfordir Treftadaeth heriol ond poblogaidd, a’r rhan rhwng
y Borth ac Ynys-las yn gwbl wastad, a’r rhan helaeth o’r llwybr yn mynd ar hyd ymyl Cors Fochno. 

Clarach i'r Borth

5.1cilomedr / 3.2 milltir

Gyda llawer o riwiau mawr, dyma ran digon anodd o Lwybr yr Arfordir. Yn Wallog, gallwch weld Sarn Cynfelin yn ymestyn i’r môr pan fo’r llanw ar drai. 

Aberystwyth i Glarach

2.7 cilomedr / 1.7 milltir

Mae’rhan fer hon o Lwybr yr Arfordir yn mynd dros
Graig Glais, lle gallwch fwynhau golygfeydd eang o Fae Ceredigion ac Aberystwyth, cael paned yn y caffi a gweld siambr dywyll fwya’r byd. Wrth fynd i’r gogledd o Aberystwyth, gallwch ddefnyddio rheilffordd y graig os nad ydych am straffaglu i fyny’r rhiw serth. 

Borth i Ynys-las

7.9 cilomedr / 4.9 milltir

Aiff y trywydd heibio’r Borth ychydig uwchben y marc penllanw, gan fynd tua’r mewndir wrth gyrraedd y nifer helaeth o argorau ar y traeth ysblennydd ar y ffordd i Ynys-las. Yna mae’n dilyn arglawdd Afon Leri, lle gallwch fwynhau golygfeydd dros Gors Fochno. Pan fo’r môr ar drai, neu os ydych yn arbennig o heini, gallwch gerdded y rhan hon i gyd ar y traeth. 

Llwybrau Cerdded yn ardal Dinas Mawddwy 

Mae Llwybrau Cerdded Mawddwy yn gynllun ariannu Ewropeaidd a chyhoeddus arall gyda 8 taith gerdded gylchol yn amrywio o deithaiu byr i rai hir ar gyfer gwahanol allu. Digon i gadw diddordeb a dod nol i fforio ymhellach. Mae'r llwybrau wedi eu lliwio ynghyd ag enwau i wahanu rhyngddynt. Mae taflen o'r llwybrau ar gael yn lleol ond gallwch hefyd lawrlwytho’r rhain yn y linc yma.

llwybrau mawddwy.jpg

Mae’r gyfres hon o deithiau tywysedig yn eich arwain o lygad yr Afon Leri i’r môr. Adroddir hanes yr ardal, ei diwylliant a’i chwedlau. Mae pob taith yn eich cyflwyno i ran wahanol o Gwm Eleri. Mae 4 taith gerdded ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg

1. Craigypistyll – Bontgoch

2. Bontgoch – Tal-y-bont

3. Tal-y-bont – Dôl-y-bont

4. Dôl-y-bont – Ynyslas

Lawrlwythwch neu wrando ar daith gerdded 1 yn y Gymraeg: Craigypistyll i’r Bontgoch ar lan afon Leri.

Lawrlwythwch neu wrando ar daith gerdded 2 yn y Gymraeg: Bontgoch i Tal-y-bont ar lan afon Leri.

Lawrlwythwch neu wrando ar daith gerdded 3 yn y Gymraeg: Tal-y-bont i Dôl-y-bont ar lan afon Leri.

Lawrlwythwch neu wrando ar daith gerdded 4 yn y Gymraeg: Dôl-y-bont i Ynyslas ar lan afon Leri.

bottom of page