top of page

Addysg

Ceir 2 ysgol uwchradd, 11 o ysgolion cynradd ac 1 ysgol 3-18 yn yr ardal. Mae’r olaf, Ysgol Bro Hyddgen, wedi ymgofrestru â UNESCO Associated School Programme network. Mae nifer o ddarparwyr addysg wedi bod yn cydweithio i helpu ysgolion lleol i ddefnyddio Biosffer Dyfi fel adnodd addysgol.

Grŵp Addysg Biosffer Dyfi -  DBEG

Mae'r grŵp hwn yn cynorthwyo addysgwyr a dysgwyr i gael cymaint o fudd ag sy’n bosibl o’r cyfleodd dysgu arbennig a gynigir trwy statws un o Warchodfeydd Biosffer UNESCO. Rhwydwaith amrywiol o ddarparwyr addysg ffurfiol ac anffurfiol o fewn Biosffer Dyfi yw’r Grŵp. Mae’n gallu adnabod a chomisiynu prosiectau addysg newydd, cyfeirio at bartneriaid potensial, a rhoi mynediad i adnoddau dysgu sy’n gysylltiedig â’r Biosffer. 

a dod i gysylltiad.

Mae Partneriaeth Biosffer Dyfi wedi cychwyn ar brosiect chwe mis, yn cychwyn ym mis Chwefror 2018, i greu cyfleoedd newydd i bobl ifainc ddychmygu dyfodol cynaliadwy i’r ardal. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan aelodau o Grŵp Addysg Biosffer Dyfi er 2010.

 

Mae ymgynghorydd lleol, Jane Powell, wedi’i phenodi i weithio gyda’r Grŵp Addysg ac eraill – i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael pobl ifainc i gymryd rhan mewn trafodaethau am ynni, bwyd, swyddi a diwylliant yn yr ardal.

Darllenwch mwy yma.

Bydd Dysgu YNGHYLCH  Biosffer Dyfi yn galluogi dysgwyr i:
  • Ddeall beth yw Gwarchodfeydd Biosffer, a pham eu bod yn bwysig

  • Werthfawrogi’r rheswm dros fodolaeth Gwarchodfa Biosffer ym Mro Ddyfi a’r ardal

  • Ddeall sut mae’r Biosffer yn gysylltiedig â sialensiau lleol a byd-eang

  • Ddeall cysyniad newid, a sut y gall pobl chwarae rhan wrth siapio’r Biosffer i sicrhau amgylchfyd cynaliadwy, o safon uchel i’r dyfodol, ar lefel leol a byd-eang

 

Bydd Dysgu O FEWN Biosffer Dyfi yn galluogi dysgwyr i:
  • Arsylwi ar esiamplau go iawn o brosesau newid dynol a chorfforol, a sut maent yn gydgysylltiedig

  • Wneud ymholiadau arwyddocaol sy’n ymchwilio i gysyniad cynaladwyedd

  • Dderbyn gyda brwdfrydedd ysbrydoliaeth yr amgylchedd naturiol a chyraeddiadau dynol y Biosffer

 

Bydd Dysgu AR GYFER Biosffer Dyfi yn galluogi dysgwyr i:
  • Arsylwi ar ac ennyn diddordeb y rhai sydd ar hyn o bryd yn gweithio i gynnal y Biosffer, a’u gweledigaethau hwy i’r dyfodol

  • Adnabod y gwerthoedd a’r ymddygiad fydd yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy

  • Ymchwilio i sut gallan nhw chwarae rhan wrth gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy, fel aelodau creadigol ac arloesol eu cymuned leol a byd-eang

  • Ddatblygu sgiliau y gellir eu defnyddio i siapio’r dyfodol

 
Cyflawni’r Canlyniadau hyn

 

Byddwn yn hyrwyddo fydd yn:

  • Cynnig amrediad o ddulliau dysgu gwahanol, yn rhai ffurfiol ac anffurfiol

  • Cynnig cyfleoedd cydweithio i ysgolion, colegau, cymunedau a sefydliadau eraill

  • Tynnu at ei gilydd agweddau gwahanol ar ddysgu neu bynciau

 

Hwyluso’r Broses: Grŵp Addysg Biosffer Dyfi (GABD)

 

Rhwydwaith amrywiol o ddarparwyr addysg ffurfiol ac anffurfiol o fewn Biosffer Dyfi yw’r GABD, sy’n parhau i dyfu. Mae’r grŵp yn bodoli er mwyn cydlynu darpariaeth addysg effeithiol o fewn cyd-destun y Biosffer. Gan mai grŵp thematig sy’n rhan o rwydwaith Partneriaeth Biosffer Dyfi yw, mae’n gallu adnabod a chomisiynu prosiectau addysg newydd, cyfeirio at bartneriaid potensial, a rhoi mynediad i adnoddau dysgu sy’n gysylltiedig â’r Biosffer. Ei nod yw gwerthuso effaith ei waith trwy fonitro ac arsylwi ar newidiadau mewn gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau, gwerthoedd ac ymddygiad ymysg y rhai sy’n rhan o’r prosiect.

Dyfi Biosphere Education Group
Dyfi Biosphere Education Group
bottom of page