Prosiect Datblygu busnes ac ieuenctid
Mae partneriad Biosffer Dyfi yn gweithio gyda busnesau a chymunedau lleol i adeiladu rhwydweithiau a hybu incwm mewn ffordd gynaliadwy. Elfen arall o’r prosiect yw ymgysylltu â phlant a phobl ifanc i archwilio’r cyfleoedd unigryw y mae Biosffer Dyfi yn eu cynnig.
Addysg
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar bod Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth wedi ennill gwobr UNESCO wedi’i seilio’n rhannol ar ei gwaith gyda Biosffer Dyfi, mae ymgynghorydd lleol, Jane Powell, wedi’i phenodi i weithio gyda’r Grŵp Addysg ac eraill – i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael pobl ifainc i gymryd rhan mewn trafodaethau am ynni, bwyd, swyddi a diwylliant yn yr ardal
Datblygu Clwstwr Bwyd
Syniad y clwstwr yw cael bwytai a chyflenwyr bwyd lleol i ddod at ei gilydd i gyd-weithio ac cyfnewid syniadau. Mae dau gyfarfod wedi cael eu cynnal hyd yn hyn. Un o brif amcanion y rhaglen yma yw hyrwyddo y defnydd o fwyd lleol cynaliadwy.
newyddion diweddara'
'Siop Ffenest' bwyd a diod Biosffer Dyfi
Dydd Iau 28ain o Fehefin yn y Wynnstay (Pizzeria), Machynlleth
-
Oes diddordeb gennych gynyddu’ch defnydd o gynnyrch lleol?
-
Beth am gydweithredu gyda busnesau eraill er mwyn tyfu busnes?
-
Sut mae statws UNESCO ‘Biosffer Dyfi’ yn berthnasol i chi?
Busnesau lletygarwch - dewch i gwrdd â chyflenwyr bwyd a diod, i ddysgu, ac i drafod.
Cewch alw heibio unrhyw amser rhwng 5 a 7 o'r gloch - ond bydd rhaglen o sgyrsiau fyrion ar gael rhwng 5.45 a 6.30, yn cynnwys:
-
Nerys Howells o Ymgynghoriaeth Bwyd Howel yn sôn am gyfle marchnata newydd 'Blas Cambrian';
-
Danny Cameron yn sôn am Dyfi Distillery;
-
Andy Rowland yn sôn am y ‘clwstwr’ o gaffis a thai bwyta sydd yn darganfod sut i ddefnyddio brand Biosffer Dyfi.
Hefyd, fel rhan o brosiect ‘Cymru Cyrchfan Bwyd’ a arweinir gan Lantra, bydd Nerys ar gael i drafod yn unigol gyda busnesau i’w hannog a’i helpu i brynu, gwerthu a gweini mwy o gynnyrch lleol. Gall Nerys gynnig cyngor ac awgrymiadau ar brynu’n lleol, trefnu bwydlenni, marchnata, defnydd o’r iaith Gymraeg, naws am le a gwasanaeth cwsmer. Rhaid archebu lle o flaen llaw.
Byddai pob croeso i chi dod a rhywun gyda chi (o'r busnes neu'r teulu) ac i archebu lluniaeth i'ch plant yn rhad ac am ddim. Os oes diddordeb gennych ddarparu'r 'goody bags' lluniaeth iach/lleol er mwyn hyrwyddo'ch busnes, yno dangoswch ddiddordeb erbyn 22 Mehefin.
Archebwch lle nawr!
Mae Project Datblygu Biosffer Dyfi yn cael eu gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ar wefan Cynnal y Cardi