top of page

Bwyd a Diod 

Blas Dyfi

Mae Blas Dyfi yn frand arbennig i Fiosffer Dyfi Daeth y prosiect yma ar adeg pan roedd diddordeb a brwdfrydedd cynyddol ynghylch bwyd a diod â tharddiad lleol. Mae wedi hwyluso diffiniad brand y gall tyfwyr, cyflenwyr a
defnyddwyr masnachol cynnyrch lleol ei arddel.

 

Mae

‘Blas Dyfi - Cynhyrchwyd o fewn Biosffer

UNESCO’

yn is-frand o Fiosffer Dyfi. Gall busnesau priodol ddangos

eu hymrwymiad i gynnyrch lleol, ffres a thymhorol drwy

ddefnyddio’r brand a'r deunydd pacio cynnyrch priodol, ar fwydlenni a
gwefannau yn ogystal ag yn eu hadeiladau. 

Manylion i fusnesau bwyd a diod yn y linciau isod.

Gweler Meini Prawf Blas Dyfi yma os hoffech ystyried defnyddio'r brand.

Gweler Siarter Blas Dyfi yma

Gweler Adroddiad Blas Dyfi yma

I ymuno â’r cynllun, anfonwch eich Siarter wedi’i chwblhau at info@ecodyfi.cymru  Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud eich rhodd, ac yn fuan bydd gennych pdf o'r logo i'w ddefnyddio yn eich deunyddiau marchnata a bwydlenni.

Marchnadoedd

Machynlleth - Pob Dydd Mercher

Mae marchnad Machynlleth yn denu amrywiaeth o stondinau gan gynnwys ffermwyr lleol, cynnyrch organig, crefftwyr a bwyd stryd o’r India. Mae’r farchnad yn cael ei chynnal ar strydoedd y dref bob dydd Mercher ers dros saith can mlynedd ac yn sicr yn werth ymweld â hi.

Machynlleth market

Wedi’i lansio ym mis Mai 2000, mae ganddi hyd at 30 o stondinau. Mae wedi ennill gwobr y Farchnad Fwyd Orau yng Ngwobrau Bwyd a Ffermio BBC Radio 4 2014 ac yn 2011, fe’i dewiswyd drwy bleidlais yn un o’r 10 Uchaf ymhlith Marchnadoedd Ffermwyr y DU​.

Aberystwyth

Gwyliau bwyd a diod

Mis Awst

Dewch ynghyd i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Bwyd a Diod –  gyda lle wedi’i neilltuo i’r pysgod a ddelir yn lleol yn aber afon Dyfi a dyfroedd y cylch. Dewch i weld arddangosiadau coginio byw ar Gei Aberdyfi a mwynhau amrywiaeth eang o stondinau cynnyrch lleol a stondinau uchel eu safon ym marchnad y ffermwyr.

Mae Planna Fwyd! Plant Food! yn fenter gymunedol sydd am gynyddu maint y bwyd a dyfir yn ardal Machynlleth yn sylweddol, fel ymateb i goronafeirws. Rydym yn gymdeithas o ffermwyr, darpar-ffermwyr, tyfwyr cartref a gwirfoddolwyr.

Mae aelodau Planna Fwyd! Plant Food! yn rhannu eu hamser, eu sgiliau, eu tir a’u hoffer er mwyn creu cymuned leol gref sy’n cynhyrchu bwyd lleol. Ewch i'r wefan Planna Fwyd am fwy o wybodaeth.

Mach Maethlon

Sefydliad yn Nyffryn Dyfi yw Mach Maethlon, sy’n rhoi mynediad i dir i’r gymuned ar gyfer tyfu, yn creu gofodau maethlon cyhoeddus gyda gwirfoddolwyr ac yn darparu cynllun bagiau llysiau tymhorol.

Mae Mach Maethlon yn creu gerddi maethlon o gwmpas Machynlleth gyda chymorth gwirfoddolwyr lleol. Mae ein cnydau am ddim i bawb eu hel.
Mae Dyfi Land Share yn cysylltu tirfeddianwyr a thyfwyr gan hwyluso mynediad i dir ar gyfer cynhyrchu bwyd. Rydym yn cynnig cefnogaeth wrth baru tir a thyfwyr ac yn rheoli cytundebau tir. 

Menter gydweithredol i dyfwyr yn Green Isle Growers. Mae gennym sawl safle tyfu gan gynhyrchu bwyd cynaliadwy heb gemegau. Rydym yn darparu bagiau llysiau lleol ac iach yn wythnosol rhwng mis Mehefin a Rhagfyr.  

Dyfi Distillery

Â’i chartref yng Nghanolfan Grefft Corris, mae Dyfi Distillery yn ficro-ddistyllwr jin a gwirodydd o’r radd flaenaf gan ddefnyddio planhigion gwyllt o Gymru, wedi’u hel o fewn Biosffer Dyfi. Cyfle prin i ymweld â distyllfa arbenigol leol ar waith yn ogystal â chanolfan grefft, Labyrinth y Brenin Arthur a Corris Mine Explorers.

Dydd Sul 13 Awst 2017

Gŵyl Fwyd a gynhelir ar Bromenâd Aberystwyth gyda phob math o stondinau a gweithgareddau: arddangosiadau coginio a sesiynau blasu bwyd gan arbenigwyr pysgod a chogyddion gwestai lleol; arddangosiadau’n cynnwys achub bywyd syrffio a chrefft gain clymu pry; arddangosiad castio gan y pencampwr byd, Hywel Morgan; stondinau bwyd Marchnad Ffermwyr arobryn Aberystwyth, stondinau celf a chrefft a gweithgareddau crefft i blant. Mae cystadlaethau’n cynnwys Pencampwriaeth Crancod y Byd Aberystwyth.

Aberystwyth Sea to Shore Festival
bottom of page