top of page

Bywyd gwyllt yn Miosffer Dyfi

Ailgyflwyno
bele'r coed

Yn 2015 a 2016 cafodd belaod y coed eu hadleoli o’r Alban i Gwm Rheidol ger Pontarfynach. Maent yn bridio’n llwyddiannus ac yn teithio drwy’r ardal a gallwch gael cip arnynt os ydych chi’n lwcus!

Bluebells
Gwanwyn

Ceir plu’r gweunydd ar Gors Fochno ac efallai y cewch chi gip ar y fadfall, madfall y twyni, y wiber, neidr y gwair, yr ehedydd, llinos, clochdar y cerrig a’r troellwr bach ar Dwyni Ynys-las. Yn y coetiroedd mae clychau’r gog yn syfrdanol. Mae’r warchodfa RSPB yn cynnal rhydwyr magu gan gynnwys y pibydd coesgoch a’r gornchwiglen ynghyd ag adar dŵr, fel yr hwyaden lydanbig, y gorhwyaden a’r hwyaden wyllt. Mae adar magu’r coetir yn cynnwys y gwybedog brith, y tingoch a thelor y coed a gellir gweld adar ysglyfaethus fel yr hebog tramor a’r barcud coch, bod tinwyn a thylluan wen. Mae’r gog, y troellwr mawr, corhedydd y coed, y bras melyn a chrec yr eithin yn nythu ar y Foel. Fel arfer, mae gweilch y pysgod yn cyrraedd yn y gwanwyn ac yn dodwy oddeutu diwedd mis Ebrill.

Ynyslas Dunes National Nature Reserve
Haf

Mae tegeirian y gors a thegeirian y gwenyn yn ymddangos yn y twyni ac yn cael eu dilyn gan y tegeirian bera. Ar y morfa ceir blodau lliwgar fel clustog Fair, serenllys y morfa a’r troellig arfor yn ogystal â’r llyrlys noddlawn gwyrdd rhyfedd.

Ceir digon o ieir bach yr haf, gwyfynod a gweision neidr ar lawer o’r gwarchodfeydd gan gynnwys gwrid y gors a gweirlöyn mawr y waun ar Gors Fochno. Byddwch yn gweld mursennod a gweision neidr – gwibwyr, picellwyr a mathau eraill – ar y gwlyptiroedd. Mae nadroedd gwair i’w gweld yn aml. Mae miloedd o lyffantod dafadennog.

Efallai y gwelwch fywyd gwyllt fel gwalch y pysgod a dyfrgi ar yr aber. Ar y warchodfa RSPB mae rhydwyr mudol fel y pibydd gwyrdd a’r pibydd coeswyrdd ac adar ysglyfaethus gan gynnwys yr hebog tramor a’r barcud coch.

Autumn in the Dyfi Biosphere
Hydref

Mae lliwiau’r hydref yn gyfoethog ac yn amrywiol ar y gyforgors sydd wedi’i gwisgo mewn mantell rytgoch amryliw. 

Mae ffyngau a geir ar y twyni’n cynnwys capiau cwyr, sêr y ddaear, codau mwg a ffyngau nyth aderyn.

Gellir gweld rhydwyr mudol yn yr aber.

Mae nifer mawr o adar dŵr yn bwydo ar y morfeydd, gan gynnwys chwiwellod, corhwyaid, hwyaid llydanbig, gwyddau talcenwyn a gwyddau gwyran. Hefyd, dyma adeg dda yn y flwyddyn i weld rhydwyr fel y gornchwiglen, y cwtiad aur a’r gylfinir ac adar ysglyfaethus. Mae drudwennod yn mudo i’r ardal ac yn aros drwy’r gaeaf a gellir gweld llwythi ohonynt oddi ar bier Aberystwyth.

Greenland white fronted geese
Gaeaf

Yn ystod misoedd y gaeaf, mae aber afon Dyfi’n gartref i adar dŵr sy’n gaeafu, tra, ar y traeth, gallwch weld rhydwyr, pibydd y tywod a’r cwtiad aur.

Cadwch lygad am adar hela ysglyfaethus gan gynnwys y barcud coch, tylluan glustiog, y bod tinwyn, y boda, y cudyll bach a’r hebog tramor. Mae hwyaid a gwyddau’n bwydo mewn niferoedd mawr ar forfeydd yr aber – gallech weld chwiwellod, corhwyaid, hwyaid llydanbig, gwyddau talcenwyn a gwyddau gwyran, y gornchwiglen, y cwtiad aur a’r gylfinir.

Gwarchodfeydd Bywyd gwyllt

Sir Drefaldwyn Mae’r ehanger mawr o weundir grug, gyda’i fannau corslyd cysylltiedig, yn amgylchynu llyn agored ar yr ucheldir. Gellir mwynhau golygfeydd trawia- dol o’r olygfan. Mae’r rhywogaethau sy’n byw yng ngwar- chodfa bywyd gwyllt Glaslyn yn cynnwys y Cwtiad Aur,

y Bod Tinwyn, Corhedydd y Waun, Grugiar Goch, yr Ehedydd, Tinwen y Garn, Crec yr Eithin, yr Ymerawdwr (gwyfyn), Gweirlöyn Bach y Waun, Plu’r Gweunydd a Grug. 

Mae’r warchodfa yn gorwedd ar yr isffordd rhwng y B4518 ger Staylittle a’r A489 ym Machynlleth.

Mae’r warchodfa’n gymysgedd iach o gors, gwernydd, coetir gwlyb a phrysgwydd sy’n gartref i gyfoeth o anifeiliaid a phlanhigion. Mae’r Gwalch y Pysgod ysblennydd yn ymweld â’r ardal o fis Ebrill i fis Medi
fel arfer. Mae Madfallod Cyffredin, Troellwyr, Ceiliogod Rhedyn, Teloriaid y Cyrs a Theloriaid yr Hesg, Gellesg Melyn a Phicellwyr Pedwar Nod i’w gweld yn y gwanwyn a’r haf. Mae Byfflos Dwr yn pori’r warchodfa yn ystod

yr haf. Mae’r gaeaf yn dod â llu o adar bach i’r cewyll bwydo, yn ogystal â Gwyddau Môr a Bodaod Tinwyn i’r warchodfa ehangach. Fe allwch hyd yn oed gael cip ar Aderyn y Bwn prin yn y corslwyni. 

Fe’i lleolir ar yr A487, SY20 8SR.

Mae’r coetir llydanddail, cyfareddol hwn yn gartref i amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid. Yn y gwanwyn gellir gweld y Gwybedog Brith a’r Gwybedog Mannog.Ymhlith yr adar coetirol cyffredin sydd i’w gweld yma mae’r Gnocell Fawr Frith, y Dringwr Bach a’r Siff-siaff Cyffredin hefyd. Mae’r Llyg Cyffredin a’r Llyg Lleiaf ill dau’n byw yn y coetir hwn yn ogystal. Yn yr ardaloedd hynny o Abercorris sydd fymryn yn sychach, fe allech fod yn ddigon ffodus i weld y Fritheg Berlog Fach, glöyn byw sy’n dod yn fwyfwy prin.  Fe’i lleolir ger pentref Corris. SY20 9DB.

Mae gan Gwm Clettwr ardal fawr o weundir yn aildyfu, ac ardal o goetir llydanddail sydd wedi’i ddatgan yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r ardal yn llawn planhigion blodeuol a rhedyn, yn cynnwys Llawredynen y Derw a Llawredynen y Ffawydd. Mae’r adar sy’n magu yn cynnwys Bronwen y Dwr, y Siglen Lwyd, Delor y Cnau, y Gwybedog Brith, y Tingoch, y Gwalch Glas a Thelor y Coed. I gael hyd i’r warchodfa, cymerwch y ffordd fach ar y dde yn syth ar ôl Capel Soar yn Nhre’r-ddôl (o gyfeiriad Aberystwyth). Mae Siop Cynfelyn gerllaw – y lle perffaith am baned ar ôl taith gerdded. Dyma’r pdf ar gyfer y safle.

Roedd Ynys-hir yn gartref i Springwatch y BBC am 3 blynedd. Yn y gwanwyn, mae’r coetir dan garped o glychau’r gog a blodau eraill y gwanwyn, tra bydd cân yr adar yn llenwi’r awyr. Gallwch wylio gwybedogion brith a thingochiaid yn dod allan o’r blychau nythu.

Yn yr haf daw rhydwyr nythu, fel y gornchwiglen a’r pibydd coesgoch yn ogystal â rhai gloÿnnod byw a gweision neidr arbennig iawn. Yna, yn ystod y misoedd oer gallwch wylio heidiau anferth o hwyaid fel corhwyaid, chwiwellod a hwyaid llygad aur yn ogystal â gwyddau talcenwyn yr Ynys Las a gwyddau gwyran o guddfannau’r aber. Cadwch lygad am ddyfrgwn yn y pyllau a’r afon.

Mae’r warchodfa eang hon yn cynnwys rhan o Aber y Ddyfi, twyni Ynyslas a Chors Fochno – un
o’r enghreifftiau mwyaf a gorau o gyforgos fawn ym Mhrydain.

Mae mynediad agored i dwyni Ynyslas gyda llwybrau pren a llwybrau eraill i chwilota’r warchodfa. Mae’r llaciau twyni’n adnabyddus am eu poblogaeth gyfoethog o degeirianau a mwsoglau a llysiau’r iau prin. Mae’r ehedydd, llinos, clochdar y cerrig a hwyaden yr eithin yn magu yn y twyni tra bo cwtiaid torchog yn nythu ar rannau caregog y traeth.

Mae gan Gors Fochno lwybr troed cyhoeddus gyda golygfeydd o’r ddwy ochr i’r gors sy’n ddelfrydol ar gyfer gwylwyr adar. Mae adar magu’r cynefinoedd
cors yn cynnwys: Corhwyaden, Pibydd Coesgoch,
Gïach Gyffredin, Rhegen y Dwr, y Gog, Ehedydd, Clochdar y Cerrig, y Troellwr Bach, Telor y Cyrs, Telor
y Gors a Bras y Gors. Ac, yn y gaeaf, mae’r bod tinwen, yr hebog tramor a’r cudyll bach yn hela dros y gors agored.

Mae’r ardal yn gartref i ryw un ar bymtheg o rywogaethau o figwyn cors, yn cynnwys tri sy’n genedlaethol brin. Mae pob un o’r tair rhywogaeth o chwys yr haul Prydeinig i’w cael yma ynghyd â rhosmari gwyllt ac amrywiaeth dda o blanhigion arbenigol eraill gwlyptir.

Mae Aber y Ddyfi’n denu niferoedd mawr o rydyddion ac adar dwr yn y gaeaf, yn cynnwys niferoedd pwysig o chwiweill. Yn ogystal mae’r aber yn cynnal yr unig boblogaeth aeafu reolaidd o wyddau talcenwyn Yr Ynys Las yng Nghymru a Lloegr. Gallwch weld y rhain o’r warchodfa RSPB gyfagos yn Ynys-hir ynghyd ag adar dwr eraill a rhydyddion sy’n gaeafu, megis cornchwiglod a chwtiaid aur. 

Dyma goetir lled-naturiol a hynafol a oedd unwaith yn rhan o hen Ystâd Plas Cynfelin. Mae llawer o agennau
a chilfachau yn y goedlan ble mae amrywiaeth eang o rywogaethau’n ffynnu. Yn yr hen chwarel a gaewyd yn y 1950’au mae llawer o wahanol ficrogynefinoedd gyda’i chlogwyni creigiog a phantiau cysgodol. 

Bu coed Penglais a’r hen chwarel yn un o nodweddion amlycaf tirwedd Aberystwyth ers sawl blwyddyn. Mae’r coed yn rhan o Ystâd fawr Penglais sy’n dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif. Creodd Cyngor Sir Ceredigion Warchodfa Natur Leol yn y lleoliad hwn yn 1995. Mae’n cynnwys coed brasddeiliog lle gwelir clychau’r gog yn garped ar lawr yn ystod y gwanwyn a hen chwarel sy’n cynnig golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion. 

Dyma warchodfa natur leol sy’n cynnwys rhywbeth i bawb. Mae’n cynnwys hen gaer, dolydd, afon, traeth, llethrau prysgoed ac esgair o gerrig mân, hen drac rheilffordd a hyd yn oed safle tirlenwi nas defnyddir mwyach. Mae bryngaer Pen Dinas sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Haearn rhwng 300CC a 43OC yng nghanol y safle hwn. 

Cors Dyfi
RSPB
Ynyslas

Cyfrinach gorau Cymru yn ôl pob tebyg. Mae’r ardal hon o Ganolbarth Cymru yn Warchodfa Bïosffer wedi ei chydnabod
gan UNESCO. Pam? Oherwydd amrywiaeth ei harddwch naturiol, treftadaeth a bywyd gwyllt.

Mae yma nifer o warchodfeydd natur pwysig, gwastaded- dau glaswellt gwlyb, morfeydd heli, coetiroedd hynafol, llynnoedd, llwybrau cenedlaethol, llwybrau arfordirol a mynyddoedd i’w chwilota... i gyd o fewn Biosffer Dyfi. 

Uchafbwyntiau bywyd gwyllt

bottom of page