Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau yn ennill gwobr arian o £1,000 yn dilyn ei ‘chwip o syniad’
Enillodd Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau wobr glodfawr Ti Bia’r Biosffer ac £1,000 diolch i’w rhaglen arloesol o deithiau cerdded a fydd yn cyfuno addysg am fioamrywiaeth gyda’r mwynhad hamddenol o fywyd gwyllt.
Cystadleuaeth her yw Ti Bia’r Biosffer a gafodd ei lansio yn ystod Hydref y llynedd gan y cwmni datblygiad economaidd blaenllaw o Gymru, Menter a Busnes. Cafodd ei threfnu fel rhan o’r prosiect Biosffer Dyfi Biosphere i annog grwpiau, sefydliadau a busnesau i gyflwyno prosiectau a fyddai’n dathlu ac yn arddangos egwyddorion y Biosffer.
Mae’r prosiect Biosffer Dyfi wedi’i ariannu ar sail gydweithredol gan grwpiau gweithredu lleol Cynnal y Cardi (Ceredigion), Arwain Powys ac Arloesi Gwynedd, wedi’i ariannu trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Wrth longyfarch Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau ar eu gwobr, dywedodd Sian Tandy o Menter a Busnes,
“Yn syml, mae’r prosiect hwn yn ymwneud ag annog preswylwyr ac ymwelwyr o bob oedran i ymgysylltu â’r byd natur mewn ffordd sy’n dathlu bioamrywiaeth leol ac yn gwneud cyfraniad positif tuag at ddiogelu’r amgylchedd naturiol.
“Mae Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau, sydd wedi’i gynnal gan Fforwm Cymuned Penparcau, yn enillwyr haeddiannol iawn. Mae’r grŵp yn cynnwys gwirfoddolwyr sy’n cynrychioli ystod eang o gefndiroedd ethnig ac yn meddu ar sgiliau gwahanol.
“Mae gan y rhaglen y maent yn ei chynllunio rywbeth i apelio at bob grŵp oedran, o blant ifanc iawn sy’n naturiol o chwilfrydig am yr awyr agored, i bobl sydd efallai wedi ymddeol neu’n cael trafferth symud, ond sydd yn dal i fod yn awyddus i fynd y tu allan a mwynhau’r ystod ardderchog o adnoddau naturiol, treftadaeth a bywyd gwyllt yr ydym ni mor ffodus i’w chael o’n hamgylch ni ledled Cymru ac yn enwedig o fewn ardal Biosffer Dyfi.”
Mae rhaglen y grŵp ar gyfer 2022, sydd wedi dechrau yn barod, yn cynnwys nifer o deithiau cerdded sy’n ystyriol i gadeiriau olwyn, teithiau gwylio adar a helfeydd pyrsau môr-forwynion. Cydau gwydn lledraidd y gellir eu canfod ar ymylon traethau yw pyrsau môr-forwynion, sy’n amddiffyn embryonau siarcod neu gathod y môr.
Pwysleisiodd Arweinydd y Prosiect, Chloe Griffiths, a dderbyniodd y wobr o £1,000 ar ran yr aelodau, y byddai digwyddiadau yn ymaddasu i’r tymhorau ac yn seiliedig ar amryw o bynciau, er enghraifft teithiau adar a bywyd gwyllt, mapio perfedd gwlad a’r arfordir, chwiliadau am flodau gwyllt a helfeydd ymlusgiaid misol.
“Ein syniad syfrdanol ni yw annog pobl nid yn unig i ymuno â’n gweithgareddau rhad ac am ddim, ond hefyd i gadw eu cofnodion eu hunain o fywyd gwyllt o’u gerddi a’u bröydd eu hunain o fewn ardal Biosffer Dyfi.
“Rydym yn falch iawn i dderbyn y wobr hon, a bydd y £1,000 yn ein helpu ni i sicrhau bod cenhedlaeth newydd o bobl sy’n caru natur yn meddu ar y sgiliau i adnabod, cofnodi ac amddiffyn y rhyfeddodau bywyd gwyllt ac amgylcheddol sy’n eu hamgylchynu.”
I ddarganfod mwy am y gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2022, dilynwch Grŵp Bywyd Gwyllt Penparcau ar Facebook.
Nodiadau i olygyddion:
Mae Ti Bia’r Biosffer, a ddarperir gan Menter a Busnes, wedi’i ariannu ar sail gydweithredol gan grwpiau gweithredu lleol Cynnal y Cardi (Ceredigion), Arwain Powys ac Arloesi Gwynedd.
Mae wedi’i ariannu trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae hefyd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gyngor Gwynedd, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA), Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.
Mae Ti Bia'r Biosffer yn cael ei weithredu gan Menter a Busnes a'i ariannu ar sail gydweithredol gan Grwpiau Gweithredu Lleol Cynnal y Cardi (Ceredigion), Arwain Powys ac Arloesi Gwynedd. Ariannwyd drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Mae hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gyngor Sir Gwynedd, yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Sir Powys.