
Coedwig Cenedlaethol

Mae Coedwig Genedlaethol i Gymru yn gynllun gweledigaethol ar gyfer rhwydwaith o goetiroedd ledled y wlad, gan ddod â manteision amgylcheddol ac iechyd yn ogystal â chynyddu gorchudd coed. Gan ddechrau gydag ardaloedd o goetir hynafol presennol yng Nghymru, bydd yn annog cymunedau, ffermwyr a thirfeddianwyr i greu ardaloedd coedwig newydd. Gall unrhyw un sydd â choetir addas ymuno.
Mae chwe nod y mae'r Goedwig yn anelu at eu cyflawni, er na fydd pob coetir yn eu cefnogi i gyd:
-
Coetiroedd gwydn o ansawdd da, sydd wedi’u dylunio a’u rheoli’n dda
-
Coetiroedd sy’n hygyrch i bobl
-
Cyfranogiad cymunedau mewn coetiroedd
-
Coetiroedd cysylltiedig
-
Coetiroedd a choed deinamig, aml-ddiwylliannol
-
Coetiroedd sy’n dangos dysg, ymchwil ac arloesi
Yn 2025-27 bydd Partneriaeth Natur Lleol Ceredigion yn arwain prosiect o dan Cynllun Tirwedd Llywodraeth Cymru i ddatblygu adran Biosffer Dyfi o'r Coedwig Cenedlaethol. Mwy am hyn.
Bydd y Biosffer yn cynnal grwp thematig i archwilio sut i fanteisio ar y cyfle i ddatblygu coedtiroedd yn yr ardal, gan gynnwys y chwech amcan uchod. Hoffem wahodd perchnogion coetiroedd preifat a sefydliadau eraill sydd â diddordeb i ymuno â'r drafodaeth. Cysylltwch â'r Biosffer os oes gennych ddiddordeb.
Llun: Coed Cadw