Cerdded, Bws a Thrên
Ehanga dy orwelion
Cymerwch y trên neu’r bws i Landyfi a dilynwch y llwybr trwy’r coed i gyfeiriad Fferm Melindwr. O fan hyn bydd Llwybr Arfordir Cymru yn dringo tuag at waelodion y Foel Fawr (268m). Gwelir golygfeydd godidog o’r afon Ddyfi a mynyddoedd Tarren oddi yma. Ar bwynt uchaf y daith mae topograff yn nodi mannau o ddiddordeb yn aber yr afon Ddyfi. Dilynwch y llwybr drwy goetir hardd Cwm Einion tuag at Ffwrnais, lleoliad safle Cadw Ffwrnais Dyfi a ddefnyddiwyd yn y 18ed ganrif i fwyndoddi mwyn haearn. Cliciwch ar y penawd am fap
Lluniau - Craig Swanson
Mae’r daith yma yn dechrau yn Borth gan ddilyn Llwybr Arfordir Cymru tuag at eglwys St Matthew. Cymerwch ofal wrth groesi’r rheilffordd a chroeswch yr afon Leri tuag at Cors Fochno. Mae’r gors fawn yn rhan o warchodfa Biosffer ddynodedig UNESCO. Mae’r gyforgors sy’n 7 metr o ddyfnder yn un o’r enghreifftiau gorau o gorsydd mawn ym Mhrydain. Edrychwch am y gylfinir, y giach a’r pibydd coesgoch wrth i chi ddilyn y llwybr tuag at fferm Cerrig- Cyranau- Isaf. Mae’r llwybr yn dychwelyd i Borth heibio fferm Pant-y-dwn. Cliciwch ar y penawd am fap.
Lluniau - Christopher Denny.
O’r orsaf drenau dilynwch Lwybr Arfordir Cymru ar hyd y promenâd. Mae’r daith yn croesi’r rheilffordd a phasio safle gwersyll RAF a ddefnyddiwyd yn ystod yr Ail Ryfel byd tuag at Aber Dysynni. Mae’r lagŵn o ddŵr hallt yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae’n hafan i adar y gwlyptir. Mae’r llwybr yn dilyn glannau’r afon Dysynni a cheir golygfeydd gwych o Graig yr Aderyn a Chadair Idris. Gallwch ymweld â’r goedwig yn Ynysmaengwyn cyn dychwelyd i Dywyn. Cliciwch ar y penawd am fap.
Lluniau - Sue Wolfe
Mae’r gylchdaith yma’n dilyn Llwybr Arfordir Cymru ac yn dringo uwchlaw’r dref trwy goedlan Allt Goch tuag at Erw Pistyll. Mae’r daith yn dilyn llwybr yr arfordir tuag at y ffordd ac yn troi i’r chwith tuag at ffermydd Crychnant a Threfeddian. Mae’r gysgodfa gwyn ym Mhen y Bryn yn cynnig golygfeydd gwych o aber yr afon Ddyfi. Honnir bod castell canoloesol a godwyd yn y 1150au wedi`i lleoli yn y safle yma. Cliciwch ar y penawd am fap.
Lluniau - Josh Cooper