top of page

Sgrechian a Socian

s and s group pic.jpg

Mae Sgrechian a Socian yn brosiect ymchwil gweithredu dan arweiniad y gymuned sy'n gofyn y cwestiwn: A oes perthynas glir rhwng iechyd afonydd a goroesiad y wennol ddu gyffredin? Mae'n rhedeg o fis Ebrill i fis Gorffennaf 2025.

Mae iechyd afonydd ledled Cymru a'r DU gyfan yn wael, ac mae hyn yn effeithio ar y bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt. Un rhywogaeth o'r fath yw'r wennol ddu, sy'n aml yn nythu ar hyd gorlifdiroedd a systemau afonydd ac yn bwydo ar bryfed. Mae gwenoliaid duon yn dirywio am lawer o resymau, a bydd y prosiect hwn yn edrych ar y rôl y mae iechyd afonydd yn ei chwarae yn hynny.

Mae'r ymchwil yn cael ei chynnal gan ddau grŵp cymunedol: Lab Dŵr Dyffryn Dyfi a'r Grŵp Gwenoliaid Duon y Biosffer mewn partneriaeth â Biosffer Dyfi ac wedi'i ariannu gan LPIP (Partneriaethau Arloesi Polisi Lleol).

Bydd gwirfoddolwyr Lab Dŵr Dyffryn Dyfi yn samplu dŵr ar hyd yr afon o Lanymawddwy ger ei ffynhonnell i'r Borth, gan brofi am dymheredd, pH, nitradau a nodweddion cemegol a ffisegol eraill, yn ogystal â monitro bywyd infertebratau.

Bydd gwirfoddolwyr o grŵp y Gwenoliaid Duon yn arolygu poblogaethau bridio gwenoliaid duon ym mhob safle, gan edrych ar ymddygiad bwydo a monitro'r defnydd o flychau gwenoliaid duon.

Mae angen eich help arnom ni!

Mae hwn yn brosiect gwyddoniaeth dinasyddion, ac mae cymorth gan y gymuned yn hanfodol i'w lwyddiant. Cynigir hyfforddiant perthnasol i unrhyw un a hoffai gymryd rhan, naill ai trwy fynd allan a phrofi nentydd gyda Lab Dŵr Dyffryn Dyfi neu fonitro gwenoliaid duon yn unrhyw le yn nalgylch Dyfi (neu'r ddau).


Am fwy o fanylion cysylltwch â'n swyddog prosiect Bryn Hall trwy ffurflen gyswllt y wefan.

Defnyddiwch ein ‘app’ Sgrechian a Socian i gofnodi eich gweld a chael mynediad at ein cofnodion data afonydd. Dewch o hyd iddo yma.

water sampling.jpg

Mae Gwennol Ddu a Dŵr yn rhan o Bartneriaeth Polisi a Arloesi Lleol Cymru Wledig lle mae Prifysgol Aberystwyth yn bartner. Ei nod yw cefnogi llunio polisïau sy'n fuddiol i gymunedau gwledig, trwy ymgysylltu â dinasyddion mewn trafodaethau a gweithgareddau.

bottom of page