![](https://static.wixstatic.com/media/f2889b_b5b34d276a9d4ae4825005a4db4e14d2~mv2.jpg/v1/fill/w_1600,h_1067,al_c,q_85,enc_avif,quality_auto/f2889b_b5b34d276a9d4ae4825005a4db4e14d2~mv2.jpg)
Bwyd a Diod
![](https://static.wixstatic.com/media/f2889b_a0aa0e17d39e40b198952904210226b1~mv2.jpg/v1/fill/w_102,h_129,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/f2889b_a0aa0e17d39e40b198952904210226b1~mv2.jpg)
![](https://static.wixstatic.com/media/f2889b_6dba8544618f424fb0744a0b75382c72~mv2.jpg/v1/fill/w_600,h_311,al_c,q_80,usm_0.66_1.00_0.01,enc_avif,quality_auto/f2889b_6dba8544618f424fb0744a0b75382c72~mv2.jpg)
Mae bwyd a diod yn bwysig ym Miosffer Dyfi. Mae ffermio, tyfu a physgota yn rhan sylweddol o’r economi ac mae llawer o fwytai, caffis a gwestai sy’n gwneud defnydd da o gynnyrch lleol, yn ogystal â marchnadoedd ffermwyr a phrosiectau bwyd cymunedol.
Mae gan y Biosffer ffrwd bwysig o brosiectau o'r enw Tyfu Dyfi sy'n hyrwyddo cadwyni cyflenwi byr a chynhyrchu agroecolegol yn yr ardal.
Rydym hefyd yn rhedeg cynllun achredu Blas Dyfi ar gyfer busnesau sy'n ymrwymo i gynhyrchu bwyd lleol ac chynaliadwy, gan ddilyn egwyddorion agroecoleg.
Blas Dyfi
Mae'r achrediad hwn ar gael i bob busnes sy'n bodloni Meini Prawf Blas Dyfi, sef:
• Mae ffermwyr a thyfwyr yn ymrwymo i ddilyn dulliau agroecolegol
• mae proseswyr yn ymrwymo i ddefnyddio cyfran uchel o gynhwysion lleol;
• disgwylir i gaffis, gwestai a thai bwyta gynnwys a hyrwyddo cynnyrch lleol, Cymreig a thymhorol.
Nid oes proses arolygu ac felly mae'n seiliedig ar ymddiriedaeth ac adborth y cyhoedd. I ymuno â'r cynllun, anfonwch Siarter Blas Dyfi wedi’i chwblhau at'i dychwelyd at coordinator@biosfferdyfi.cymru. Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut i wneud eich rhodd, ac yn fuan bydd gennych pdf o'r logo i'w ddefnyddio yn eich deunyddiau marchnata a bwydlenni.
Deiliaid presennol achrediad Blas Dyfi yw:
Siopau
Maeth y Meysydd, Y Ffynnon Haearn (Chalybeate St), Aberystwyth
Aberdyfi Icecream, Seaview Terrace Aberdyfi a Heol y Wig (Pier St), Aberystwyth
Bwyd Dyfi Hub ac Aber Food Surplus, Heol y Porth Tywyll (Great Darkgate St), Aberystwyth
Cafes
Baravin, Llys y Brenin, Aberystwyth
Y Gornel, Princes St, Aberystwyth
Little Devils Café, Terrace Rd, Aberystwyth
![](https://static.wixstatic.com/media/f2889b_a0aa0e17d39e40b198952904210226b1~mv2.jpg/v1/fill/w_231,h_294,al_c,lg_1,q_80,enc_avif,quality_auto/f2889b_a0aa0e17d39e40b198952904210226b1~mv2.jpg)
Marchnadoedd a gwyliau
Cynhelir marchnad Machynlleth bob dydd Mercher, gyda detholiad mawr o fwyd
Mae Marchnad Ffermwyr Aberystwyth y dydd Sadwrn cyntaf a thrydydd o bob mis
Trefnir gwyliau bwyd yn rheolaidd.