Datblygu a mentora cynhyrchwyr bwyd garddwriaethol newydd.
Mae’r rhaglen Llwybrau i Ffermio’n gweithio tuag at greu economi bwyd lleol cryfach yn ardal Biosffer Dyfi trwy hyfforddi a mentora cynhyrchwyr bwyd garddwriaethol newydd a chreu marchnadoedd newydd ar gyfer bwyd a dyfir yn lleol.
Rydym yn cynnig rhaglen o fentora a hyfforddiant amaethecolegol mewn cynhyrchu bwyd, gan gynnwys:
-
Sesiynau ystafell ddosbarth (ar-lein/wyneb-yn-wyneb) – Yn ystod y cyfnod yma byddwch yn dysgu’r wybodaeth gefndir er mwyn datblygu eich syniad busnes a’ch cynllun busnes.
-
Sesiynau grŵp ymarferol yn y cae. Gyda chefnogaeth ein tiwtor, byddwch yn gweithio ar ein safle tyfu ymarferol, a derbyn addysg ac arweiniad ar agweddau ymarferol ar dyfu.
-
Ymweliadau addysgol â ffermydd a gerddi marchnad. Cyfleoedd gwych i ddysgu a rhannu syniadau tyfwyr profiadol eraill.
-
Llain microfferm ar ein cae hyfforddi ym Mhantperthog (neu gallwch ddefnyddio eich tir eich hun) i roi eich cynlluniau ar gyfer cnydau ar waith.
-
Mentora i helpu datblygu eich cynlluniau a chael hyd i farchnadoedd i werthu’ch cynnyrch
Darllen amdanom yma
Darllen erthygl am Gyw Ffermwyr yma
Darllen adroddiad a gomisiynwyd gan WWF Cymru ar system fwyd gynaliadwy i Gymru ‘System Fwyd yng Nghymru sy’n addas i Genedlaethau’r Dyfodol’ sy’n cynnwys astudiaeth achos ar gwrs Llwybrau i Ffermio yma
Gwylio ein fideo yma
- Cymryd rhan -
Mae’r rhaglen ar gyfer 2024 yn llawn bellach; byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth am gyfleoedd y dyfodol ar y wefan hon.
Cadwch mewn cysylltiad gyda’n prosiect ar dudalen Tyfu Dyfi ar Facebook.
Darllen am raglen 2024 yma
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol neu ragor o wybodaeth, anfonwch ebost at: claire@ecodyfi.cymru