top of page

Gweithgareddau Awyr Agored ym Miosffer Dyfi

Syrffio a Phadlfyrddio

Mae dau draeth syrffio rhagorol a phoblogaidd ym Miosffer Dyfi:

Aberystwyth

Cyrchfan myfyrwyr lan môr poblogaidd sydd â chwpwl o doriadau rîff ardderchog, os anwadal.

Borth

Traeth o dywod hir ym Mae Ceredigion.

Beicio Mynydd

Mae’r ardal yn gartref i rai o’r llwybrau beicio mynydd gorau yn y DU gyda’r pencampwr byd lleol, Dan Atherton, yn creu llwybrau beicio drwy’r coedwigoedd.

 

Hefyd, ym mis Mai, cynhelir digwyddiad Enduro 60km blynyddol i dros 1000 o feicwyr o gwmpas coedwigoedd Dyfi.

Mae llwybrau lleol yn cynnwys:

Cli-MachX - Cylchdaith 15km yw hon, sydd â thrac sengl adeiledig 9km gyda chywasgiadau a gwawchiadau, sawl dibyn dros slabiau creigiog a rhai troeon llifeiriol hyfryd.

Mach 1 -  21km. Cymysgedd o rostir agored, disgyn drwy goedwig a golygfeydd hardd. Dewiswch y llwybr hwn fel taith gychwynnol ddelfrydol i ddod i nabod yr ardal.

Mach 2 - 22k. Cymysgedd gwych o ddisgynfeydd bendigedig, dringfeydd agored a golygfeydd hardd dros gymoedd, Dylai’r beiciwr cyffredin ei gwblhau o fewn 2 i 2.5 awr.

Mach 3 - 34k. Dyma daith sydd wir yn mynd â chi i’r tiroedd gwyllt. Gallwch ddisgwyl dringfeydd hir a disgynfeydd heriol. Dylai’r beiciwr cyffredin ei chwblhau o fewn 3 i 3.5 awr.

mountain biking

Rhedeg

Mae gan Fiosffer Dyfi ddewis helaeth o lwybrau, yn enwedig:

Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth

Tan y Coed ger Machynlleth

yn ogystal â Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr

Beicio Modur

Breuddwyd beiciwr yw’r ffyrdd o gwmpas Biosffer Dyfi, gyda golygfeydd syfrdanol a thirwedd amrywiol.

 

Hefyd, ym mis Mai, cynhelir Gŵyl Beiciau Modur Mach 2 ym Machynlleth, yn ei hail flwyddyn yn 2017.

Crwydrwch hen gloddfa lechi gydag un o fforwyr mwyngloddiau mwyaf profiadol Cymru. Mae hyn yn mynd â chi i mewn i hen gloddfa lechi Braich Goch a gloddiwyd gyntaf ym 1836 a’i gadael gan y mwynwyr tua 40 mlynedd yn ôl. Mae dros 130 o flynyddoedd o hanes wedi’u dal y tu mewn iddi yn aros i gael eu darganfod.

bottom of page