top of page

Lleoedd i ymweld â nhw ym Miosffer Dyfi

Mae bob amser ddigon i’w weld a’i wneud o gwmpas y Biosffer. Mae’r atyniadau ymwelwyr a restrir isod yn aelodau o Gymdeithas Twristiaeth Biosffer Dyfi (DBTA) ac yn rhannu nodau a gweledigaeth y Biosffer.

Canolfan y Cefyddydau Aberystwyth

Mae canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru’n cynnal rhaglen artistig eang ac amrywiol, gan gynhyrchu a chyflwyno ar draws yr holl ffurfiau ar gelfyddyd gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, celfyddydau cymhwysol, ffilm a chelfyddydau cymunedol.

Canolfan ymwelwyr Ynys Las

Ynyslas yw prif bwynt mynediad i’r Warchodfa Natur Genedlaethol. Mae’r Warchodfa hon yn cwmpasu 2,000 hectar ac yn cynnwys tair prif ardal, sef Aber Afon Dyfi, Twyni Tywod Ynyslas a Chyforgors Cors Fochno. Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Genedlaethol.

Mae’r cyfleusterau yn cynnwys:

  • canolfan ymwelwyr gyda siop fechan a thoiledau (ar agor o’r Pasg tan ddiwedd Medi)

  • llwybr estyllod pren 500 metr o hyd o’r ganolfan ymwelwyr ar draws y twyni i’r traeth

  • teithiau tywys a digwyddiadau yn yr haf.

Centre for Alternative Technology

Â’i chartref yng nghanol harddwch canolbarth Cymru a thros 40 mlynedd o brofiad mewn gwaith cynaliadwyedd, mae’r Ganolfan yn tremio dros Barc Cenedlaethol Eryri, sy’n enwog am ei olygfeydd syfrdanol, gweithgareddau awyr agored a’i ffocws amgylcheddol.

Corris Craft Centre

Mae yma gasgliad gwych o siopau, atyniadau a gweithgareddau i’r teulu cyfan.

Mae Canolfan Grefftau Corris yn ymfalchïo mewn 9 Stiwdio Grefft unigol sy’n berffaith ar gyfer cael hyd i rywbeth arbennig sydd wedi’i ysbrydoli a’i wneud â llaw yng Nghymru.

Corris Mine Explorers

Crwydrwch hen gloddfa lechi gydag un o fforwyr mwyngloddiau mwyaf profiadol Cymru. Mae hyn yn mynd â chi i mewn i hen gloddfa lechi Braich Goch a gloddiwyd gyntaf ym 1836 a’i gadael gan y mwynwyr tua 40 mlynedd yn ôl. Mae dros 130 o flynyddoedd o hanes wedi’u dal y tu mewn iddi yn aros i gael eu darganfod.

Reidiau traddodiadol ar y traeth drwy gydol yr haf yn Aberdyfi. Diwrnodau fferm agored gyda sesiynau rhyngweithiol a’r cyfle i grwydro’r warchodfa natur breifat.

Teithiau cerdded tywysedig drwy’r coedydd a lonydd o gwmpas cartref yr asynnod. Rhaid archebu ymlaen llaw.

Dyfi Osprey Project

Prosiect Gwalch y Pysgod yw un o’r mwyaf o’i fath yn y byd. Mae pedwar camera pwerus ac Arsyllfa 360 yn cynnig golygfeydd heb eu hail o’r ‘par priod’ enwog, Monty a Glesni.

King Arthur's Labyrinth

Ewch ar gwch bach drwy len hudolus pistyll tanddaearol yn ôl drwy niwloedd amser. Mae chwedlau hynafol Cymru am ddreigiau, cewri a’r Brenin Arthur yn dod yn fyw wrth i chi grwydro drwy geudyllau enfawr a thwneli troellog. 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mae’r adeilad eiconig hwn yn llawn llyfrau a llawysgirfau prin, ffilmiau, paentiadau a mapiau amhrisiadwy a chynhelir rhaglen reolaidd o arddangosfeydd a ddigwyddiadau am dreftadaeth a diwylliant Cymru a’r gwledydd Celtaidd.  Siop a chaffi hefyd!

Mwynhewch ddiwrnod allan i’w gofio yn y ganolfan ymwelwyr unigryw yma yng nghanolbarth Cymru. Cwningod, ysgubor chwarae, caffi a’r unig arddangosfa barhaol o Awtomata cyfoes (modelau symudol mecanyddol) yn y DU; profiad rhyngweithiol ymarferol. 

MOMA Machynlleth and the Tabernacle Trust

Hen gapel Wesleaidd yw’r Tabernacl a drawsnewidiwyd yn ganolfan gelfyddydau/  perfformio ynghlwm wrth Amgueddfa Celfyddyd Fodern Machynlleth. Gofodau i arddangosfeydd a rhaglen ddigwyddiadau barhaus drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Gŵyl Machynlleth bob mis Awst.

Roedd Ynys-hir yn gartref i Springwatch y BBC am 3 blynedd ac mae’n ymfalchïo yn ei henghreifftiau syfrdanol o goetir derw Cymreig, glaswelltir gwlyb lawr gwlad, mawnog a morfa. Mae yna wledd i’r llygaid o unrhyw un o’r 6 chuddfan sy’n cynnig golygfeydd dros foryd afon Dyfi a’r adar ysglyfaethus niferus megis y barcud coch, hebog tramor, bod tinwyn a gwalch Marthin.

Vale of Rheidol Railway

Chwyth ar y chwiban a’r stêm yn hisian ac i ffwrdd â chi! Eisteddwch yn ôl, ymlacio a gadael i ni fynd â chi ar siwrnai lawn nostalgia rhwng Aberystwyth a Phontarfynach drwy rai o rannau godidocaf cefn gwlad Cymru.

1 / 1

Please reload

bottom of page