Bywyd gwyllt yn Miosffer Dyfi
Gallwch weld podiau dolffiniaid ym Mae Clarach, Borth ac Aberystwyth.
Haid o ddrudwennod yn hedfan yn Aberystwyth. Gallwch eu gwylio yn yr Hydref a’r Gaeaf. ffoto Kerryn Price
Mae digon o leoedd i weld carpedi o glychau’r gog o gwmpas y Biosffer
Monty yn dychwelyd i Fiosffer Dyfi i fridio. Gweler gweilch y pysgod ym Mhrosiect Gweilch Dyfi
Gallwch weld yr anifeiliaid blewog yma o gwmpas y gwahanol warchodfeydd, os byddwch yn dawel iawn!
Ailgyflwyno
Yn 2015 a 2016 cafodd belaod y coed eu hadleoli o’r Alban i Gwm Rheidol ger Pontarfynach. Maent yn bridio’n llwyddiannus ac yn teithio drwy’r ardal a gallwch gael cip arnynt os ydych chi’n lwcus!
Gwanwyn
Ceir plu’r gweunydd ar Gors Fochno ac efallai y cewch chi gip ar y fadfall, madfall y twyni, y wiber, neidr y gwair, yr ehedydd, llinos, clochdar y cerrig a’r troellwr bach ar Dwyni Ynys-las. Yn y coetiroedd mae clychau’r gog yn syfrdanol. Mae’r warchodfa RSPB yn cynnal rhydwyr magu gan gynnwys y pibydd coesgoch a’r gornchwiglen ynghyd ag adar dŵr, fel yr hwyaden lydanbig, y gorhwyaden a’r hwyaden wyllt. Mae adar magu’r coetir yn cynnwys y gwybedog brith, y tingoch a thelor y coed a gellir gweld adar ysglyfaethus fel yr hebog tramor a’r barcud coch, bod tinwyn a thylluan wen. Mae’r gog, y troellwr mawr, corhedydd y coed, y bras melyn a chrec yr eithin yn nythu ar y Foel. Fel arfer, mae gweilch y pysgod yn cyrraedd yn y gwanwyn ac yn dodwy oddeutu diwedd mis Ebrill.
Haf
Mae tegeirian y gors a thegeirian y gwenyn yn ymddangos yn y twyni ac yn cael eu dilyn gan y tegeirian bera. Ar y morfa ceir blodau lliwgar fel clustog Fair, serenllys y morfa a’r troellig arfor yn ogystal â’r llyrlys noddlawn gwyrdd rhyfedd.
Ceir digon o ieir bach yr haf, gwyfynod a gweision neidr ar lawer o’r gwarchodfeydd gan gynnwys gwrid y gors a gweirlöyn mawr y waun ar Gors Fochno. Byddwch yn gweld mursennod a gweision neidr – gwibwyr, picellwyr a mathau eraill – ar y gwlyptiroedd. Mae nadroedd gwair i’w gweld yn aml. Mae miloedd o lyffantod dafadennog.
Efallai y gwelwch fywyd gwyllt fel gwalch y pysgod a dyfrgi ar yr aber. Ar y warchodfa RSPB mae rhydwyr mudol fel y pibydd gwyrdd a’r pibydd coeswyrdd ac adar ysglyfaethus gan gynnwys yr hebog tramor a’r barcud coch.
Hydref
Mae lliwiau’r hydref yn gyfoethog ac yn amrywiol ar y gyforgors sydd wedi’i gwisgo mewn mantell rytgoch amryliw.
Mae ffyngau a geir ar y twyni’n cynnwys capiau cwyr, sêr y ddaear, codau mwg a ffyngau nyth aderyn.
Gellir gweld rhydwyr mudol yn yr aber.
Mae nifer mawr o adar dŵr yn bwydo ar y morfeydd, gan gynnwys chwiwellod, corhwyaid, hwyaid llydanbig, gwyddau talcenwyn a gwyddau gwyran. Hefyd, dyma adeg dda yn y flwyddyn i weld rhydwyr fel y gornchwiglen, y cwtiad aur a’r gylfinir ac adar ysglyfaethus. Mae drudwennod yn mudo i’r ardal ac yn aros drwy’r gaeaf a gellir gweld llwythi ohonynt oddi ar bier Aberystwyth.
Gaeaf
Yn ystod misoedd y gaeaf, mae aber afon Dyfi’n gartref i adar dŵr sy’n gaeafu, tra, ar y traeth, gallwch weld rhydwyr, pibydd y tywod a’r cwtiad aur.
Cadwch lygad am adar hela ysglyfaethus gan gynnwys y barcud coch, tylluan glustiog, y bod tinwyn, y boda, y cudyll bach a’r hebog tramor. Mae hwyaid a gwyddau’n bwydo mewn niferoedd mawr ar forfeydd yr aber – gallech weld chwiwellod, corhwyaid, hwyaid llydanbig, gwyddau talcenwyn a gwyddau gwyran, y gornchwiglen, y cwtiad aur a’r gylfinir.
Gwarchodfeydd Bywyd gwyllt
Sir Drefaldwyn Mae’r ehanger mawr o weundir grug, gyda’i fannau corslyd cysylltiedig, yn amgylchynu llyn agored ar yr ucheldir. Gellir mwynhau golygfeydd trawia- dol o’r olygfan. Mae’r rhywogaethau sy’n byw yng ngwar- chodfa bywyd gwyllt Glaslyn yn cynnwys y Cwtiad Aur,
y Bod Tinwyn, Corhedydd y Waun, Grugiar Goch, yr Ehedydd, Tinwen y Garn, Crec yr Eithin, yr Ymerawdwr (gwyfyn), Gweirlöyn Bach y Waun, Plu’r Gweunydd a Grug.
Mae’r warchodfa yn gorwedd ar yr isffordd rhwng y B4518 ger Staylittle a’r A489 ym Machynlleth.
Mae’r warchodfa’n gymysgedd iach o gors, gwernydd, coetir gwlyb a phrysgwydd sy’n gartref i gyfoeth o anifeiliaid a phlanhigion. Mae’r Gwalch y Pysgod ysblennydd yn ymweld â’r ardal o fis Ebrill i fis Medi
fel arfer. Mae Madfallod Cyffredin, Troellwyr, Ceiliogod Rhedyn, Teloriaid y Cyrs a Theloriaid yr Hesg, Gellesg Melyn a Phicellwyr Pedwar Nod i’w gweld yn y gwanwyn a’r haf. Mae Byfflos Dwr yn pori’r warchodfa yn ystod
yr haf. Mae’r gaeaf yn dod â llu o adar bach i’r cewyll bwydo, yn ogystal â Gwyddau Môr a Bodaod Tinwyn i’r warchodfa ehangach. Fe allwch hyd yn oed gael cip ar Aderyn y Bwn prin yn y corslwyni.
Fe’i lleolir ar yr A487, SY20 8SR.
Mae’r coetir llydanddail, cyfareddol hwn yn gartref i amrywiaeth fawr o blanhigion ac anifeiliaid. Yn y gwanwyn gellir gweld y Gwybedog Brith a’r Gwybedog Mannog.Ymhlith yr adar coetirol cyffredin sydd i’w gweld yma mae’r Gnocell Fawr Frith, y Dringwr Bach a’r Siff-siaff Cyffredin hefyd. Mae’r Llyg Cyffredin a’r Llyg Lleiaf ill dau’n byw yn y coetir hwn yn ogystal. Yn yr ardaloedd hynny o Abercorris sydd fymryn yn sychach, fe allech fod yn ddigon ffodus i weld y Fritheg Berlog Fach, glöyn byw sy’n dod yn fwyfwy prin. Fe’i lleolir ger pentref Corris. SY20 9DB.
Mae gan Gwm Clettwr ardal fawr o weundir yn aildyfu, ac ardal o goetir llydanddail sydd wedi’i ddatgan yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae’r ardal yn llawn planhigion blodeuol a rhedyn, yn cynnwys Llawredynen y Derw a Llawredynen y Ffawydd. Mae’r adar sy’n magu yn cynnwys Bronwen y Dwr, y Siglen Lwyd, Delor y Cnau, y Gwybedog Brith, y Tingoch, y Gwalch Glas a Thelor y Coed. I gael hyd i’r warchodfa, cymerwch y ffordd fach ar y dde yn syth ar ôl Capel Soar yn Nhre’r-ddôl (o gyfeiriad Aberystwyth). Mae Siop Cynfelyn gerllaw – y lle perffaith am baned ar ôl taith gerdded. Dyma’r pdf ar gyfer y safle.
Roedd Ynys-hir yn gartref i Springwatch y BBC am 3 blynedd. Yn y gwanwyn, mae’r coetir dan garped o glychau’r gog a blodau eraill y gwanwyn, tra bydd cân yr adar yn llenwi’r awyr. Gallwch wylio gwybedogion brith a thingochiaid yn dod allan o’r blychau nythu.
Yn yr haf daw rhydwyr nythu, fel y gornchwiglen a’r pibydd coesgoch yn ogystal â rhai gloÿnnod byw a gweision neidr arbennig iawn. Yna, yn ystod y misoedd oer gallwch wylio heidiau anferth o hwyaid fel corhwyaid, chwiwellod a hwyaid llygad aur yn ogystal â gwyddau talcenwyn yr Ynys Las a gwyddau gwyran o guddfannau’r aber. Cadwch lygad am ddyfrgwn yn y pyllau a’r afon.
Mae’r warchodfa eang hon yn cynnwys rhan o Aber y Ddyfi, twyni Ynyslas a Chors Fochno – un
o’r enghreifftiau mwyaf a gorau o gyforgos fawn ym Mhrydain.
Mae mynediad agored i dwyni Ynyslas gyda llwybrau pren a llwybrau eraill i chwilota’r warchodfa. Mae’r llaciau twyni’n adnabyddus am eu poblogaeth gyfoethog o degeirianau a mwsoglau a llysiau’r iau prin. Mae’r ehedydd, llinos, clochdar y cerrig a hwyaden yr eithin yn magu yn y twyni tra bo cwtiaid torchog yn nythu ar rannau caregog y traeth.
Mae gan Gors Fochno lwybr troed cyhoeddus gyda golygfeydd o’r ddwy ochr i’r gors sy’n ddelfrydol ar gyfer gwylwyr adar. Mae adar magu’r cynefinoedd
cors yn cynnwys: Corhwyaden, Pibydd Coesgoch,
Gïach Gyffredin, Rhegen y Dwr, y Gog, Ehedydd, Clochdar y Cerrig, y Troellwr Bach, Telor y Cyrs, Telor
y Gors a Bras y Gors. Ac, yn y gaeaf, mae’r bod tinwen, yr hebog tramor a’r cudyll bach yn hela dros y gors agored.
Mae’r ardal yn gartref i ryw un ar bymtheg o rywogaethau o figwyn cors, yn cynnwys tri sy’n genedlaethol brin. Mae pob un o’r tair rhywogaeth o chwys yr haul Prydeinig i’w cael yma ynghyd â rhosmari gwyllt ac amrywiaeth dda o blanhigion arbenigol eraill gwlyptir.
Mae Aber y Ddyfi’n denu niferoedd mawr o rydyddion ac adar dwr yn y gaeaf, yn cynnwys niferoedd pwysig o chwiweill. Yn ogystal mae’r aber yn cynnal yr unig boblogaeth aeafu reolaidd o wyddau talcenwyn Yr Ynys Las yng Nghymru a Lloegr. Gallwch weld y rhain o’r warchodfa RSPB gyfagos yn Ynys-hir ynghyd ag adar dwr eraill a rhydyddion sy’n gaeafu, megis cornchwiglod a chwtiaid aur.
Dyma goetir lled-naturiol a hynafol a oedd unwaith yn rhan o hen Ystâd Plas Cynfelin. Mae llawer o agennau
a chilfachau yn y goedlan ble mae amrywiaeth eang o rywogaethau’n ffynnu. Yn yr hen chwarel a gaewyd yn y 1950’au mae llawer o wahanol ficrogynefinoedd gyda’i chlogwyni creigiog a phantiau cysgodol.
Bu coed Penglais a’r hen chwarel yn un o nodweddion amlycaf tirwedd Aberystwyth ers sawl blwyddyn. Mae’r coed yn rhan o Ystâd fawr Penglais sy’n dyddio’n ôl i’r ddeunawfed ganrif. Creodd Cyngor Sir Ceredigion Warchodfa Natur Leol yn y lleoliad hwn yn 1995. Mae’n cynnwys coed brasddeiliog lle gwelir clychau’r gog yn garped ar lawr yn ystod y gwanwyn a hen chwarel sy’n cynnig golygfeydd godidog dros Fae Ceredigion.
Dyma warchodfa natur leol sy’n cynnwys rhywbeth i bawb. Mae’n cynnwys hen gaer, dolydd, afon, traeth, llethrau prysgoed ac esgair o gerrig mân, hen drac rheilffordd a hyd yn oed safle tirlenwi nas defnyddir mwyach. Mae bryngaer Pen Dinas sy’n dyddio’n ôl i’r Oes Haearn rhwng 300CC a 43OC yng nghanol y safle hwn.
Cyfrinach gorau Cymru yn ôl pob tebyg. Mae’r ardal hon o Ganolbarth Cymru yn Warchodfa Bïosffer wedi ei chydnabod
gan UNESCO. Pam? Oherwydd amrywiaeth ei harddwch naturiol, treftadaeth a bywyd gwyllt.
Mae yma nifer o warchodfeydd natur pwysig, gwastaded- dau glaswellt gwlyb, morfeydd heli, coetiroedd hynafol, llynnoedd, llwybrau cenedlaethol, llwybrau arfordirol a mynyddoedd i’w chwilota... i gyd o fewn Biosffer Dyfi.