
Addysg
Ceir 2 ysgol uwchradd, 11 o ysgolion cynradd ac 1 ysgol 3-18 yn yr ardal. Mae’r olaf, Ysgol Bro Hyddgen, wedi ymgofrestru â UNESCO Associated School Programme network. Mae nifer o ddarparwyr addysg wedi bod yn cydweithio i helpu ysgolion lleol i ddefnyddio Biosffer Dyfi fel adnodd addysgol.
Grŵp Addysg Biosffer Dyfi - DBEG
Mae'r grŵp hwn yn cynorthwyo addysgwyr a dysgwyr i gael cymaint o fudd ag sy’n bosibl o’r cyfleodd dysgu arbennig a gynigir trwy statws un o Warchodfeydd Biosffer UNESCO. Rhwydwaith amrywiol o ddarparwyr addysg ffurfiol ac anffurfiol o fewn Biosffer Dyfi yw’r Grŵp. Mae’n gallu adnabod a chomisiynu prosiectau addysg newydd, cyfeirio at bartneriaid potensial, a rhoi mynediad i adnoddau dysgu sy’n gysylltiedig â’r Biosffer.
Mae Partneriaeth Biosffer Dyfi wedi cychwyn ar brosiect chwe mis, yn cychwyn ym mis Chwefror 2018, i greu cyfleoedd newydd i bobl ifainc ddychmygu dyfodol cynaliadwy i’r ardal. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan aelodau o Grŵp Addysg Biosffer Dyfi er 2010.
Mae ymgynghorydd lleol, Jane Powell, wedi’i phenodi i weithio gyda’r Grŵp Addysg ac eraill – i ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael pobl ifainc i gymryd rhan mewn trafodaethau am ynni, bwyd, swyddi a diwylliant yn yr ardal.
Darllenwch mwy yma.
Bydd Dysgu YNGHYLCH Biosffer Dyfi yn galluogi dysgwyr i:
-
Ddeall beth yw Gwarchodfeydd Biosffer, a pham eu bod yn bwysig
-
Werthfawrogi’r rheswm dros fodolaeth Gwarchodfa Biosffer ym Mro Ddyfi a’r ardal
-
Ddeall sut mae’r Biosffer yn gysylltiedig â sialensiau lleol a byd-eang
-
Ddeall cysyniad newid, a sut y gall pobl chwarae rhan wrth siapio’r Biosffer i sicrhau amgylchfyd cynaliadwy, o safon uchel i’r dyfodol, ar lefel leol a byd-eang
Bydd Dysgu O FEWN Biosffer Dyfi yn galluogi dysgwyr i:
-
Arsylwi ar esiamplau go iawn o brosesau newid dynol a chorfforol, a sut maent yn gydgysylltiedig
-
Wneud ymholiadau arwyddocaol sy’n ymchwilio i gysyniad cynaladwyedd
-
Dderbyn gyda brwdfrydedd ysbrydoliaeth yr amgylchedd naturiol a chyraeddiadau dynol y Biosffer
Bydd Dysgu AR GYFER Biosffer Dyfi yn galluogi dysgwyr i:
-
Arsylwi ar ac ennyn diddordeb y rhai sydd ar hyn o bryd yn gweithio i gynnal y Biosffer, a’u gweledigaethau hwy i’r dyfodol
-
Adnabod y gwerthoedd a’r ymddygiad fydd yn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy
-
Ymchwilio i sut gallan nhw chwarae rhan wrth gyfrannu at ddyfodol cynaliadwy, fel aelodau creadigol ac arloesol eu cymuned leol a byd-eang
-
Ddatblygu sgiliau y gellir eu defnyddio i siapio’r dyfodol
Cyflawni’r Canlyniadau hyn
Byddwn yn hyrwyddo fydd yn:
-
Cynnig amrediad o ddulliau dysgu gwahanol, yn rhai ffurfiol ac anffurfiol
-
Cynnig cyfleoedd cydweithio i ysgolion, colegau, cymunedau a sefydliadau eraill
-
Tynnu at ei gilydd agweddau gwahanol ar ddysgu neu bynciau
Hwyluso’r Broses: Grŵp Addysg Biosffer Dyfi (GABD)
Rhwydwaith amrywiol o ddarparwyr addysg ffurfiol ac anffurfiol o fewn Biosffer Dyfi yw’r GABD, sy’n parhau i dyfu. Mae’r grŵp yn bodoli er mwyn cydlynu darpariaeth addysg effeithiol o fewn cyd-destun y Biosffer. Gan mai grŵp thematig sy’n rhan o rwydwaith Partneriaeth Biosffer Dyfi yw, mae’n gallu adnabod a chomisiynu prosiectau addysg newydd, cyfeirio at bartneriaid potensial, a rhoi mynediad i adnoddau dysgu sy’n gysylltiedig â’r Biosffer. Ei nod yw gwerthuso effaith ei waith trwy fonitro ac arsylwi ar newidiadau mewn gwybodaeth, dealltwriaeth, sgiliau, gwerthoedd ac ymddygiad ymysg y rhai sy’n rhan o’r prosiect.





