top of page
Wynebau’r Biosffer

Mae menter ‘Wynebau’r Biosffer’ yn creu cadwyn o bobl sydd eisiau rhannu gwybodaeth ag ymwelwyr â’r ardal. Mae pob un yn gwybod am nodau ac amcanion y Biosffer a hefyd yn gallu siarad am le, chwedl neu atyniad lleol.  Maent yn cynnig persbectif personol i ymwelwyr. Yr unig gymwysterau angenrheidiol yw gwerthfawrogiad o’r ardal a chariad tuag ati a bod ar gael am rywfaint o’r amser, er enghraifft, drwy weithio neu wirfoddoli mewn siop, caffi neu sefydliad tebyg.

bottom of page