top of page

Ceir digon o leoedd i aros ar draws Biosffer Dyfi: gwestai, gwersyllfeydd a rhai lleoedd sydd ychydig yn fwy anarferol. Mae’r darparwyr a restrir isod i gyd yn aelodau o Gymdeithas Twristiaeth Biosffer Dyfi (DBTA) sy’n cefnogi nodau a gweledigaeth Biosffer Dyfi.

Lleoedd i aros ym Miosffer Dyfi

Plas Dolau

Mae Ystâd Wledig Plas Dolau wedi'i lleoli mewn 25 erw o gefn gwlad heddychlon yng nghanol Cwm Rheidol. Rydym yn cynnig ystod eang o lety, gan gynnal llety i grwpiau cerdded mawr i unigolion sy'n chwilio am hoe yng nghefn gwlad.

Maes gwersylla tawel a hardd ychydig y tu allan i bentref tlws glan môr Aberdyfi.
Rydyn ni’n cynnig glampio yn ein pebyll cloch bendigedig gyda’r holl ddodrefn sydd eu hangen ac mae gynnon ni blotiau ar gyfer carafanau, cartrefi modur a cherbydau gwersylla. 

Mae ein coetiroedd a nentydd yn cynnig cefnlen dangnefeddus ar gyfer eich gwyliau glampio neu wersylla.

Aberdovey Hillside Village

Casgliad o dai a fflatiau hunanddarpar pwrpasol sy’n croesawu cŵn.

Wedi’i leoli ar y llethr uwchben Aberdyfi mae’r pentre gwyliau hwn yn manteisio i’r eitha ar olygfeydd panoramig godidog, gan gynnwys rhai hardd ac amrywiol dros y môr a mynediad i gymuned leol ffyniannus a llwybr yr arfordir.

Aberdovey Holiday Cottages

Detholiad o lety hunanddarpar mewn lleoliadau gwych ym mhentre hardd glan môr Aberdyfi a’r cyffiniau. Perffaith ar gyfer hoe fer, gwyliau teulu ger y traeth, neu grwydro Llwybr Arfordir Cymru a’r mynyddoedd gerllaw.

Canolfan Corris/Corris Hostel

Hostel ‘gwyrdd’ arobryn gyda ffocws ar les a’r amgylchedd.

Mae’r hostel tlws hwn yn ddelfrydol ar gyfer grwpiau a theuluoedd. Wedi’i leoli mewn hen ysgol, mae’n edrych dros bentre Corris yng nghanol mynyddoedd Meirionnydd.

Cefnwch ar bopeth ar eco-frêc rhamantus yn eich Iyrt neu’ch Tipi eich hun.

Cyfforddusrwydd, llonyddwch a phopeth er eich lles mewn cytgord ag amgylchedd naturiol hardd mynyddoedd Cymru. 

Encil y Tyddyn

Bythynnod gwyliau ‘gwyrdd’ pum seren, mewn lleoliad bendigedig, sy’n cysgu 29 mewn llety a rennir; gyda 2 i 10 ym mhob bwthyn. Gallwch fwynhau cerdded a beicio, heddwch a harddwch, dringo Mynyddoedd Elenydd ac Eryri neu grwydro glan y mor.

Mae gwyliau’r Hendy yn cynnig llety hunanddarpar a gwely a brecwast ar fferm weithredol gyda’i harhosfa ei hun ar lein fach Tal-y-llyn. Lle gwych ar gyfer gwyliau neu arhosiad byr.

Parc cartrefi gwyliau, teithio a gwersylla ger Machynlleth yw Morben Isaf. Wedi’i leoli ger aber afon Dyfi, mae gan y parc olygfeydd godidog dros y wlad o’i gwmpas. 

The Star Inn, Dylife

Llety gwely a brecwast trwyddedig yw Tafarn y Star a saif yn un o ardaloedd cefn gwlad mwyaf trawiadol gwledydd Prydain. Yn cynnig gwely a brecwast, prydau o fwyd gyda’r nos, pecynnau cinio a sawna. Croeso i gŵn a cheffylau.

Tynrhelyg, Talybont

Dihangfa wledig hollol arbennig lle gallwch weld y dirwedd yn ymagor o’ch blaen. Bythynnod moethus sydd wedi’u lleoli’n ddelfrydol ar gyfer cerdded ym Mynyddoedd Cambria neu ar yr arfordir, gwarchodfeydd natur a gweithgareddau glan môr.

Yr Hen Stablau

Llety gwely a brecwast trwyddedig yw Tafarn y Star a saif yn un o ardaloedd cefn gwlad mwyaf trawiadol gwledydd Prydain. Yn cynnig gwely a brecwast, prydau o fwyd gyda’r nos, pecynnau cinio a sawna. Croeso i gŵn a cheffylau.

Wynnstay Hotel

Bwyty a pizzeria yng nghanol Machynlleth. Bwyd gwych mewn lle delfrydol i ymweld â llawer o ardaloedd o ddiddordeb yn lleol. Gwelyau pedwar postyn a gwasanaeth ystafell ar gael.

1 / 1

Please reload

bottom of page