top of page

Iechyd awyr agored

Mae gweithgareddau awyr agored mewn natur yn dda i'n hiechyd. Mae astudiaethau wedi dangos y gall natur ostwng hormonau straen fel cortisol, gyda dwy awr yr wythnos mewn natur yn rhoi hwb sylweddol i iechyd a lles. Mae hyn yn arbennig o wir am bobl sy'n sâl neu wedi'u hynysu'n gymdeithasol ac a allai gael gweithgareddau fel cerdded neu grefftau coetir wedi'u rhagnodi gan eu meddygfeydd teulu.

Mae'r Biosffer yn cefnogi'r gweithgareddau hyn fel rhan o'i gylch gwaith ehangach i greu llefydd lle gall pobl gysylltu â'r byd naturiol a dysgu gofalu amdano'n well. Ar y tudalen hwn cewch ddarllen am ein project newydd Awyr Iach, yn ogystal â gwaith blaenorol. 

Awyr Iach FacebookHeader.jpg

Mae prosiect Awyr Iach yn cynnig gweithgareddau dan arweiniad proffesiynol am ddim i bob oed, gan gynnwys sgiliau coetir, coginio a chwilota am fwyd, cerdded, ymwybyddiaeth ofalgar a chrefftau yn yr ysbyty ac ar draws y Biosffer. Fe'i arweinir gan Coed Lleol mewn partneriaeth â Biosffer Dyfi a'i ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hyd at i fis Mawrth 2028.

Os hoffech gymryd rhan, dilynwch y prosiect ar Facebook neu weld y calendr ar-lein.

 

Mae'r Biosffer wedi gweithio gyda'r partner lleol Coed Lleol i gynnal cyfres o brosiectau i ddatblygu gwasanaeth iechyd awyr agored i bobl Dyffryn Dyfi, gan gydweithio â chynrychiolwyr o Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi a chanolfannau gofal iechyd lleol eraill, y fforwm cleifion lleol, cyngor y dref, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, MIND, Camad a llawer o rai eraill. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu mwy.

Mae gwaith iechyd awyr agored blaenorol wedi cynnwys Mentro Allan yn 2015-2020 yn cefnogi unigedd gwledig gyda gweithgareddau i gynyddu symudedd; ‘Trywydd Iach’, datblygu rhwydwaith iechyd awyr agored ar draws y Biosffer gyda gweithgareddau i wella iechyd a lles 2020-23; ac astudiaeth ddichonoldeb yn 2024 i edrych ar y potensial ar gyfer gwasanaeth iechyd awyr agored integredig sydd ar gael yn benodol o Ysbyty newydd Bro Ddyfi.

 

Gwyliwch yr astudiaeth achos Trywydd Iach isod i weld sut mae'r gwaith iechyd awyr agored diweddar wedi bod o fudd i bobl.

bottom of page