top of page

Sut mae Biosffer Dyfi’n gweithio

Statws gwirfoddol sydd gan Fiosffer Dyfi, ac nid oes cyllid rheolaidd ar gyfer gweithgareddau craidd, felly wrth i bobl a sefydliadau weithio ar y cyd y mae ei amcanion yn cael eu cyflawni.

Adeiladu economi ddatgarboneiddio adfywiol

Comisiynwyd Partneriaeth BRO (BRO) gan ecodyfi, ar ran Partneriaeth Biosffer UNESCO Dyfi, i baratoi Cynllun Busnes a Datblygu. Cychwynnwyd y gwaith ym mis Mawrth 2021 a’i gwblhau erbyn Gorffennaf 2021. Cefnogwyd y prosiect gan Gynllun Adeiladu Gallu Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru / Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae'r Cynllun yn nodi llwybr lle byddai'r Biosffer yn dod yn sefydliad annibynnol gyda'i staff ei hun. Mae hefyd yn cynnwys cofnod o ymgysylltiad y gymuned, busnes a’r sector cyhoeddus a gynhaliwyd yn ystod cyfnod y contract, ac mae’n cymharu sefyllfa ariannu Biosffer Dyfi â rhai Biospherau eraill y DU.

Mae grŵp rheoli newydd yn ceisio sicrhau cyllid datblygu am gyfnod o dair blynedd. Mae wedi grwpio amrywiaeth o gamau gweithredu arfaethedig o amgylch tair thema, fel a ganlyn:

1. Helpu rheolwyr tir (ffermio, pysgota, tyfu, coedwigaeth ac ati) i lunio'r dyfodol.

2. Datblygu economi leol adfywiol.

3. Cryfhau lles, gwybodaeth a chyfranogiad lleol mewn democratiaeth.

Dadlwythwch adroddiad y cynllun isod i gael mwy o fanylion.

Adroddiad a chynllun Biosffer Dyfi Gorffennaf 2021 (yn Saesneg yn unig)

Mae’r Biosffer yn awyddus i annog unigolion, clybiau a chymdeithasau, busnesau a’r sector cyhoeddus i gymryd rhan yn y fenter. Mae’n bwysig sicrhau bod y brand yn fwy gweladwy yn y gymuned a bod mwy o bobl yn dod i adnabod a deall beth mae’n ei gynrychioli.

 

Mae’r Cynllun Cydlynu’n disgrifio’r nodau, camau arfaethedig a sut maent i gael eu cydgysylltu

 

Mae’r Cyfarfod Blynyddol yn agored i bawb sydd ȃ diddordeb ym Miosffer Dyfi – er mwyn derbyn adroddiadau, trafod beth sy’n digwydd a chael cyfle i ddweud eu dweud

 

Mae’r Bartneriaeth yn goruchwylio’r holl weithgareddau ac yn adrodd i UNESCO drwy Gyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Darperir yr ysgrifenyddiaeth gan y partneriaid sector gyhoeddus yn eu tro. Rhestrir yr aelodau presennol ar ochr dde’r dudalen hon.

Mae’r Grŵp Swyddogion yn gweithio dros y Bartneriaeth rhwng cyfarfodydd, ac yn sicrhau bod ei benderfyniadau’n cael eu gweithredu.    

Mae llawer o waith Biosffer Dyfu’n cael ei wneud drwy ddod ynghyd i ddilyn buddiannau cyffredin. Mewn rhai achlysuron gwneir hyn drwy grwpiau neu rwydweithiau thematig ffurfiol sy’n hunan reoli, fel y canlynol:

Aelodau'r Partneriaeth

Alun Williams - Cyngor Ceredigion 

Andy Rowland - Secretariat (ecodyfi)

Avril York - Cyngor Powys 

John Wynn Jones Cyngor Gwynedd 

David L Roberts - Parc Cenedlaethol Eryri

Linda Ashton - Cyfoeth Naturiol Cymru

Lisa Tomos - Cyfoeth Naturiol Cymru

Patrick Green - Cyfoeth Naturiol Cymru

Chris Worker - Llywodraeth Cymru

Steve Chambers - Llywodraeth Cymru

Dai Harris - Llywodraeth Cymru

Bev Dimmock - Cymdeithas Dwristiaeth Biosffer Dyfi (RSPB)

Jenny Dingle - Grŵp Addysg Biosffer Dyfi(RSPB)

Abi Crutcher -  Grŵp Addysg Biosffer Dyfi (Montgomeryshire Wildlife Trust)

Julie Green - Mid Wales Africa Network

Iolo Ap Gwynn - Gadeirydd

Dave Anning - RSPB

Grŵp Addysg Biosffer Dyfi -  DBEG

Mae'r grŵp hwn yn cynorthwyo addysgwyr a dysgwyr i gael cymaint o fudd ag sy’n bosibl o’r cyfleodd dysgu arbennig a gynigir trwy statws un o Warchodfeydd Biosffer UNESCO. Rhwydwaith amrywiol o ddarparwyr addysg ffurfiol ac anffurfiol o fewn Biosffer Dyfi yw’r Grŵp. Mae’n gallu adnabod a chomisiynu prosiectau addysg newydd, cyfeirio at bartneriaid potensial, a rhoi mynediad i adnoddau dysgu sy’n gysylltiedig â’r Biosffer.                                                                   a dod i gysylltiad

Cymdeithas Dwristiaeth Biosffer Dyfi - DBTA

Mae’r gymdeithas ar agor i fusnesau sy’n ymwneud â thwristiaeth sy’n gweithredu yn ardal Biosffer Dyfi.  Ein prif amcanion ydy cynyddu nifer yr ymwelwyr a faint y byddant yn ei wario yn yr ardal, drwy hyrwyddo’r asedau naturiol a diwylliannol unigryw a arweiniodd ar ddynodi’r ardal yn Biosffer gan UNESCO. Mae'n grŵp o bobl sy’n annog a chefnogi ei gilydd i greu busnesau twristiaeth mwy cynaliadwy. Dewch i gysylltiad.

Rhwydwaith Affrica Canolbarth Cymru

Bydd aelodau'r rhwydwaith yn ceisio:
- Cymell yr arfer o rannu sgiliau a gwybodaeth rhwng grwpiau sydd a chysylltiadau cymunedol ag Affrica
- Dysgu oddi wrth ein gilydd er mwyn gwella a chryfhau cynlluniau yn ein gwledydd cyswllt unigol
- Gweithio i godi ymwybyddiaeth o ddiwylliant, cerddoriaeth a materion cyfoes Affrica drwy drefnu gweithgareddau a digwyddiadau ar y cyd
- Adlewyrchu ymrwymiad Cymru fel cenedl eangfrydig ac allblyg, i ddatblygu rhyngwladol.

Dewch i gysylltiad

Cyfathrebu

Mae'r Cynllun Cyfathrebu yn disgrifio ffyrdd eraill y mae cyfranogiad yn cael ei annog, gan gynnwys y wefan, facebook a twitter, Siarter Biosffer Dyfi, cynllun Cefnogwyr ar gyfer unigolion a rhaglen 'Wynebau Biosffer'

Mae Siartr

Drwy  lofnodi’r Siartr, mae sefydliadau’n dangos eu cefnogaeth i Weledigaeth y Biosffer. Yna, fe’u caniateir i ddefnyddio logo Biosffer Dyfi i ddangos hynny. Hyd yn hyn, nid yw’r Biosffer wedi cefnogi cynhyrchion penodol (e.e. ar ddeunydd pecynnu) oherwydd diffyg capasiti i ddiffinio a monitro safonau.

 

Mae croeso i unrhyw un fynnu bod eu gweithgareddau eu hunain yn cyfrannu tuag at Weledigaeth neu Nodau’r Biosffer. Er enghraifft, gall ymgeiswyr am gyllid nodi y byddai eu cais er budd menter y Biosffer.

 

Os gofynnir am gefnogaeth i brosiect a gynigir, bydd y Biosffer yn defnyddio’r meini prawf canlynol:

  • I ba raddau y mae’n cefnogi symud tuag at y Weledigaeth a’r Amcanion;

  • Hygrededd y mecanwaith darparu a gynigir;

  • A yw’n gwrthdaro â neu’n tanseilio unrhyw un o bolisïau’r Bartneriaeth;

  • A yw’n gwrthdaro â neu’n tanseilio unrhyw un o bolisïau aelodau’r Bartneriaeth.

bottom of page