
Y Prosiect Gwrtaith Gwrydd Lluosflwydd
Bwriad Ecodyfi yw cydweithio â ffermwyr a thyfwyr lleol i dreialu techneg newydd o ffrwythloni cnydau. Mae gwrtaith gwyrdd lluosflwydd yn wrtaith a wneir o ddeunydd planhigion a dyfir mewn coedlannau prysgwydd a phlanhigfeydd lluosflwydd bioamrywiol. Yn debyg iawn i'r meillion a'r ffacbys sy'n rhoi hwb i ffrwythlondeb ac a ddefnyddir gan ffermwyr ers cryn amser bellach, mae coed a llwyni sy'n sefydlogi nitrogen, megis gwern ac eithin, yn gweithio gyda'r bacteria yn y pridd i drosi nitrogen yn ffurf sy'n ddefnyddiol i blanhigion.
Gan ddefnyddio'r dull hwn, bydd ffermwyr yn tyfu eu gwrtaith ar ffurf dail coed sy'n llawn nitrogen. Bydd y rhain yn cael eu torri pan fyddant yn wyrdd a'u hychwanegu at dir âr. Bydd yr ardaloedd hyn sy'n cynhyrchu gwrtaith yn cael eu lleoli mewn mannau llai cynhyrchiol ar ffermydd, megis ar lethrau serth neu dir corsiog. Byddant hefyd yn gweithredu fel cronfeydd bioamrywiaeth ac yn adeiladu storfeydd carbon mewn gwreiddiau a phridd. Y gobaith yw y bydd y dechneg yn helpu ffermwyr i ymateb i rai o'r heriau niferus sy'n eu hwynebu, gan gynnwys costau gwrtaith sy'n codi'n gyflym ynghyd â'r angen i gael rhagor o orchudd coed er mwyn adfer cynefinoedd ac i ddal a storio carbon.
Mae gwaith cychwynnol ym Mhrifysgol Bangor wedi arwain at ganlyniadau addawol mewn arbrofion a gaiff eu rheoli a'u monitro'n wyddonol. Gwelwyd, er enghraifft, bod llai o nwyon tŷ gwydr yn cael eu hallyrru o bridd a ffrwythlonwyd â dail gwern o'i gymharu â phridd a ffrwythlonwyd â gwrtaith a weithgynhyrchwyd a thail gwyrdd meillion traddodiadol. Y cam nesaf yw treialu'r dechneg ar gnydau ar ffermydd gweithiol. Yma, yn Nyffryn Dyfi, mae tyfu grawnfwydydd a llysiau ar gynnydd unwaith yn rhagor. Mae hyn yn rhywbeth sydd, yn hanesyddol wedi bod yn rhan o'n tirwedd amaethyddol. (https://www.biosfferdyfi.cymru/ffermio-cymysg-hanesion-ar-dyfodol). Gobaith Ecodyfi yw denu rhai o'r cynhyrchwyr lleol hyn i dreialu tail gwyrdd lluosflwydd o'i gymharu â'u dull arferol o ffrwythloni.

Arbrawf maes ar wenith sydd wedi'i ffrwythloni â dail gwern ym Mhrifysgol Bangor

Nodylau sefydlogi nitrogen ar wreiddyn gwernen (Alnus glutinosa)


Ymhlith y rhywogaethau o blanhigion y gellid eu defnyddio yn y treialon mae coed a llwyni sy'n sefydlogi nitrogen megis gwern, banadl ac ynn Sbaen, yn ogystal â chnydau lluosflwydd gan gynnwys alffalffa, bysedd y blaidd a ffacbys. Gellir cynnwys planhigion eraill sy'n tyrchu'r ddaear am faetholion, megis llysiau'r cwlwm a helyg hefyd, gan fod rhyng-gnydio'r rhain â choed a llwyni sy'n sefydlogi nitrogen yn manteisio i’r eithaf ar effeithlonrwydd.
Bydd y prosiect yn dechrau yn haf 2022. Bydd Ecodyfi yn dod i adnabod ffermwyr a thyfwyr sydd am ddefnyddio gwrtaith gwyrdd lluosflwydd i ffrwythloni eu cnydau eu hunain, a bydd yn creu treialon pwrpasol gyda nhw. Bydd y treialon yn dechrau yng ngwanwyn 2023 a bydd y canlyniadau, gan gynnwys cynnyrch cymharol a thystiolaeth o brofiadau ffermwyr, ar gael i dyfwyr eraill. Yn ystod gaeaf 2023/4, bydd y ffermydd sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn cael arian i blannu eu hardaloedd tail gwyrdd lluosflwydd eu hunain, ac i ddefnyddio'r tail hwnnw yn y dyfodol. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio a'u lleoli mewn mannau sy'n sicrhau'r cyd-fanteision mwyaf posibl i'r fferm, er enghraifft i fod yn gysgod i gnydau, ffynonellau neithdar ar gyfer pryfed peillio, a chynefinoedd ar gyfer adar a phryfed sy'n rheoli plâu cnydau.

Cyhoeddusrwydd ac Adnoddau (Saesneg)...
Clo Ward's presentation on PGMs at Organic Matters 2022
See 7.40.00 - 25.00m...
Tackling the nitrogen problem – how best to manage this brilliant
but volatile element? The Organic Grower - No 60 Autumn 2022
Climate-wise Agriculture- how best to fertilise our crops?
Clean Slate No 125 Autumn 2022
Lauren Baker from Country Focus Interviews Clo Ward of the Perennial Green Manures Project- See 16.05- 22.34m
Country Focus- Cockles and Island Sheep -04 Dec 2022
Cefnogir y prosiect Gwrtaith Gwyrdd Lluosflwydd gan y Gronfa Arloesi Carbon - partneriaeth rhwng y Co-op a'r Co-op Foundation. Mae'n cefnogi prosiectau bwyd a ffermio sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. https://www.coopfoundation.org.uk/blog/carbon-innovation-launch/
Bydd prosiect Beacon Prifysgol Aberystwyth yn cydweithio â'r prosiect i brosesu dail y planhigion er mwyn ei gwneud yn haws eu defnyddio ar dir âr. https://beaconwales.org/cy/
Os ydych chi'n dyfwr neu'n ffermwr lleol yn Nyffryn Dyfi ac yn awyddus i gymryd rhan, cysylltwch â Clo.Ward@dyfibiosphere.cymru neu tilly.gomersall@dyfibiosphere.cymru.
Cysylltwch â ni
Clo Ward, Ymchwilydd Prosiect
clo.ward@dyfibiosphere.wales

Clo yw ein hymchwilydd, ac mae’n gweithio ar ddylunio a chynnal y treialon ochr yn ochr â’r tyfwyr. Bu’n gweithio ym maes garddwriaeth ers 30 mlynedd, gan arbenigo mewn ffrwythau a systemau lluosflwydd, a hyrwyddo technegau amgylcheddol trwy arddangos gerddi, ysgrifennu ac addysgu, o fewn ac o amgylch Dyffryn Dyfi.
Wrth iddi chwilio am atebion i gwestiynau ynghylch yr hinsawdd ym myd amaeth, daeth yn ôl i fyd astudiaeth wyddonol yn 2013, gan gwblhau gradd MSc mewn Diogelwch Bwyd o Brifysgol Bangor. Arweiniodd y gwaith hwn at PhD o Brifysgol Bangor dan y teitl ‘Gwerthusiad o wrteithiau gwyrdd lluosflwydd symudol ar gyfer lliniaru newid hinsawdd ym myd amaeth’, sy’n ffurfio’r sail ar gyfer y prosiect GGLl.
Tilly Gomersall, Rheolwr Prosiect
tilly.gomersall@dyfibiosphere.wales

Mae rôl Tilly yn cynnwys cydlynu a chyfathrebu ar y prosiect yn ogystal â chymryd rhan yn rhai o’r elfennau ymarferol. Mae’n astudio ar gyfer MSc mewn Bwyd Cynaliadwy ac Adnoddau Naturiol yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen, ble mae’n canolbwyntio ar iechyd y pridd a newid hinsawdd ym myd amaeth. Mae ganddi gefndir ym maeth garddio marchnad, ac mae’n gwerthu cynnyrch ffres yn Nyffryn Dyfi a hadau trwy Hwb Hadau Cymru.
