top of page

Yr Adolygiad Cyfnodol

Daeth yr ardal yn Fïosffer yn 2009, ac yn ôl rheoliadau UNESCO roedd rhaid cynnal arolwg 10 mlynedd ohono er mwyn cadw ei statws.

Bu llawer o newidiadau yno yn ystod y cyfnod hwn, gyda phwyseddau amgylcheddol newydd megis newid yn yr hinsawdd, rhywogaethau ymledol a heintiau coetiroedd conwydd, a thoriadau mewn cyllidebau sector cyhoeddus hefyd.

Cymeradwyodd UNESCO yr adroddiadau ym mis Medi 2021, ac o hynny ymlaen daeth pum ardal Cyngor Cymuned ychwanegol yn rhan ffurfiol o ardal Biosffer Dyfi:

  • Bryncrug a Thywyn yng Ngwynedd;

  • Carno ym Mhowys;

  • Faenor a Llanbadarn Fawr yng Ngheredigion.

Lawr lwythwch y dogfennau canlynol:

Dyfi Forward Look (Saesneg yn unig) (1.6MB)

Mae'r atodiadau ychwanegol ar gael yma (Saesneg yn unig)

bottom of page