top of page

Gwyliau a digwyddiadau ym Miosffer Dyfi

Ceir amrywiaeth o ddigwyddiadau a gwyliau diddorol a gynhelir o gwmpas Biosffer Dyfi ar hyd y flwyddyn, gan gynnwys Gŵyl Gomedi Machynlleth, râs beicio mynydd Enduro a’r ŵyl cerddoriaeth Ladin-Americanaidd unigryw “El Sueño Existe”. Mae rhywbeth i bawb.

2017 o gwmpas y Biosffer Dyfi

Gŵyl Machynlleth

Mae Gŵyl flynyddol Machynlleth yn darparu gwledd wythnos ar ei hyd o’r gerddoriaeth glasurol orau, gyda sgyrsiau, cyfweliadau a dosbarthiadau meistr yn ogystal â noson jazz. Mae’r Gymanfa Ganu agoriadol fendigedig yn cynnig cyfle i ganu neu wrando ar emynau Cymraeg yn diasbedain o gwmpas neuadd gyngerdd sy’n un o’r rhai gorau o ran ei hacwsteg yng ngwledydd Prydain ac Ewrop. Y Tabernacl, Machynlleth, yr wythnos olaf ym mis Awst.

Gŵyl Fwyd Aberdyfi

Mis Awst

Dewch ynghyd i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Bwyd a Diod –  gyda lle wedi’i neilltuo i’r pysgod a ddelir yn lleol yn aber afon Dyfi a dyfroedd y cylch. Dewch i weld arddangosiadau coginio byw ar Gei Aberdyfi a mwynhau amrywiaeth eang o stondinau cynnyrch lleol a stondinau uchel eu safon ym marchnad y ffermwyr.

Gŵyl Lenyddiaeth a Chystadleuaeth Farddoniaeth R S Thomas

15,16,17 Medi 2017

Fel teyrnged i’r Parch R S Thomas, oedd yn offeriad Eglwys San Mihangel Eglwysfach o 1954 tan 1967, mae Cyngor Eglwysig y Plwyf yn cynnal hon, y bedwaredd ŵyl i anrhydeddu’r bardd. Bydd yn ymestyn dros 3 diwrnod. Ar ddydd Gwener bydd y ffotograffydd lleol adnabyddus, Jeremy Moore yn arwain taith gerdded heibio i hoff leoliadau’r bardd, lle cafodd ei ysbrydoliaeth yn ystod y cyfnod yma.

Llusernau Gorymdaith Machynlleth

Ail benwythnos hanner tymor. Gorymdaith oleuedig gymunedol hynod hudolus i lawr Stryd Maengwyn, Machynlleth bob mis Hydref. Cynhelir y gweithdai gwneud llusernau yn ystod hanner tymor a cheir thema wahanol bob blwyddyn.

Please reload

bottom of page