top of page
IMAG3718.jpg

Yn galw ffermwyr a thyfwyr!

Byddwch yn rhan o’r Treialon Cnydau Gwrtaith Gwyrdd Lluosflwydd (GGLl)

Yn dilyn gwaith ymchwil gwyddonol cychwynnol, mae angen darganfod pa mor ymarferol ac effeithiol yw Gwrtaith Gwyrdd Lluosflwydd mewn gwirionedd. Rydym yn chwilio am ffermwyr  âr a thyfwyr garddwriaethol a fyddai’n barod i ddefnyddio GGLl i wrteithio rhan o un o’u cnydau.

Gall y cyfranogwyr fod yn unrhyw fath o dyfwr – o gynhyrchwyr llysiau ar raddfa fach i ffermwyr âr sy’n ffermio caeau mawr. Gyda’n gilydd byddwn yn dewis y math(au) mwyaf addas o GGLl ar gyfer eich cnwd chi ac yn dylunio’r treial gyda chi. Byddwn yn eu cymharu  â’ch dull arferol o ffrwythloni cnydau, boed hynny’n dail anifail, compost, gwrtaith gwyrdd traddodiadol, gwrtaith confensiynol neu unrhyw ddull arall.

Diagram on PGM use -Cymraeg.jpg

Byddwn ni’n darparu’r GGLl ar gyfer eich cnwd ar ffurf dail sych neu belenni dail, yn sefydlu’r treial gyda chi ac yn dychwelyd i fonitro tyfiant y cnwd a lefelau maeth y pridd.

Yn ogystal â mesur cynnyrch y cnwd, hoffem hefyd glywed am eich profiad chi o ddefnyddio’r dechneg; sut rydych yn credu y byddai’n eistedd o fewn eich system gnydio a sut y gellid ei wella yn y dyfodol. Byddwch yn derbyn y data am dyfiant eich cnwd a lefelau maeth y pridd, a bydd cyfle i drafod eich profiad gyda chyfranogwyr eraill y treial.

Cyllid ar gyfer cyfranogwyr y treialon cnydau

 

Mae ffermydd yn weithleoedd prysur ac mae risg y gall unrhyw fath o dreialon achosi gostyngiad mewn cynnyrch cnydau. Gan fod llwyddiant yn dibynnu arnoch chi’n rhannu eich amser a’ch gwybodaeth gyda ni, a derbyn y risg o ostyngiad posib mewn cynnyrch, byddwn yn cynnig rhywfaint o iawndal ariannol i chi am gymryd rhan.

IMG_20221003_123810.jpg
measuring GHG from PGMs 2.JPG

Treialon maes GGLl blaenorol                                 

 

Cyllid i blannu eich ardal “bio-wasanaeth” cynhyrchu GGLl eich hun

Ar ôl y treialon cnydau, bydd cyfranogwyr sydd â thir addas yn cael cyfle i blannu “ardal bio-wasanaeth”  GGLl â rhywogaethau sy’n addas ar gyfer eu tir a’u cnydau eu hunain. Gall yr ardaloedd bio-wasanaeth fod yn unrhyw faint - o ychydig fetrau sgwâr i leiniau mawr o hanner erw neu fwy. Bydd planhigion, hadau a deunyddiau’n cael eu darparu gan y prosiect GGLl yn ystod gaeaf 2023/24, a gallwn hefyd gynorthwyo gyda pharatoi’r tir a phlannu.

 

Gan not oes gan bawb sy’n tyfu cnydau dir i’w neilltuo ar gyfer cynhyrchu GGLl, byddwn hefyd yn ariannu rheolwyr tir eraill i blannu ardaloedd bio-wasanaeth i ddarparu GGLl i dyfwyr âr a garddwriaethol yn Nyffryn Dyfi.

Prosesu meillion

Digwyddiadau arfaethedig:
  • 23-24 Tachwedd 2022- Bydd gennym stondin yng Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru, Llambed

IMAG3717.jpg

Gellir plannu coedlannau gwern fel ‘ardaloedd bio-wasanaeth’ ar rannau o’r fferm nas defnyddir, gan fachu nitrogen ac atafaelu carbon.

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i dderbyn y newyddion diweddaraf am y prosiect!

OTH_COP65955_Co-opFoundationLogoLockup_519805.jpg
bottom of page