top of page

Archif prosiect

Cymerau

Bwriad prosiect Cymerau oedd annog cymunedau yn ardal y Borth, Tal-y-bont a’r cyffiniau i gymryd rhan mewn trafodaethau am ddŵr. Comisiynwyd nifer o artistiaid, wedi’u hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a Dyniaethau i weithio â chymunedau dros gyfnod o ddeuddeg mis, mis Medi 2015 – Awst 2016. Mae map dŵr digidol wedi’i greu i adlewyrchu’r holl storïau lleol a ddeilliodd o’r broses hon.

COBWEB

Mae Citizen OBservatory Web Prosiect 4 blynedd oedd COBWEB. Mae Citizen OBservatory Web  a ariannwyd gan Raglen FP 7 yr UE a ddaeth i ben ym mis Hydref 2017. Yn gynllun sy’n defnyddio ‘gwyddoniaeth gwerin’ (citizen science) sef galluogi dinasyddion i gasglu gwybodaeth amgylcheddol drwy ddefnyddio teclynnau symudol.  Bydd y wybodaeth a gesglir yn addas i’w ddefnyddio mewn ymchwil gwyddonol, gwneud penderfyniadau a llunio polisi.

Mae COBWEB yn ddibynnol ar yr hyn a elwir yn ‘dorf-darddu’ (crowdsourcing) sef casglu data gan dorf amhenodol o bobl. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar Rwydwaith Gwarchodfeydd Biosffer y Byd a bu’n ymchwilio i 4 o’r ardaloedd hyn gan gynnwys Biosffer Dyfi i gasglu gwybodaeth werthfawr. Daeth pobl leol a sefydliadau at ei gilydd i fonitro cynefinoedd ac i ddysgu am y Biosffer. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth 

Rheoli Adnoddau Naturiol yn gynaliadwy

Rhwng 2014 a 2016, bu Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydweithio â rhanddeiliaid ym Miosffer Dyfi i’w helpu i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer sut rydym yn rheoli adnoddau naturiol yr ardal. Dyma un o dri chynllun peilot ymagwedd gydgysylltiedig newydd Cymru sy’n anelu at feithrin amgylchedd iach a chydnerth a all gynnal ffyniant economaidd a chymdeithasol am genedlaethau i ddod

Twristiaeth gweithgareddau

Yn ystod 2015/16, defnyddiodd ecodyfi gymorth grant gan Croeso Cymru i ddwyn at ei gilydd dywyswyr, hyfforddwyr a darparwyr anturiaethau awyr agored ym Miosffer Dyfi. Cytunon nhw i gydweithio i roi gwybod i fwy o bobl am yr amrywiaeth wych o brofiadau a chynefinoedd sydd ar gael yn yr ardal unigryw a chryno hon. Cliciwch yma.

Chwedlau'r Biosffer

Mae Croeso Cymru a Chyngor Sir Powys yn rhoi cymorth grant i ecodyfi i drefnu digwyddiadau i ymwelwyr sy’n tynnu ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog  a bywiogrwydd creadigol yr ardal. Mae manylion a dewisiadau archebu ar gael yma, ynghyd â fideos bach tafod yn y boch.

Prosiect Cynllun Rheoli Coetir Cymunedol

Mae’r llyfryn hwn yn darparu crynodeb o’r ymdrech gydweithredol rhwng Grŵp Clwstwr FEI Dyfi a chymunedau lleol Bontfaen a Machynlleth i d datblygu

cynllun rheoli coetir tryloyw i Goed Tŷ Gwyn i ddiwallu anghenion a bodloni diddordebau pawb.

Cydlynwyd y prosiect a fu’n cynnwys 648 o bobl ar draws y ddwy gymuned gan Coetiroedd Dyfi a’i ariannu gan Gronfa Bartneriaeth Menter Addysg y Goedwig a Chronfa Cydnerthedd Cymunedol Glasu.

Astudiaeth Llwybr Glyndŵr

Yn 2014, defnyddiodd ecodyfi gymorth grant gan Croeso Cymru i gasglu gwybodaeth am bethau ar neu’n agos i Lwybr Cenedlaethol Glyndŵr sydd o ddiddordeb i ymwelwyr – treftadaeth naturiol ac adeiledig, lleoedd i aros a siopa, trafnidiaeth gyhoeddus ac yn y blaen. Mae’r Adroddiad yn mapio’r asedau hyn a bydd yn helpu unrhyw fusnes sydd eisiau datblygu twristiaeth gerdded ar draws canolbarth Cymru.

Darganfod Dyfi

Defnyddiodd Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt gymorth grant gan y Comisiwn Ewropeaidd i ymgynghori â phobl am lwybrau cerdded a threftadaeth ym Miosffer Dyfi ac yna i wella llwybrau dethol. Cyhoeddwyd y 16 o deithiau cerdded ac maent ar gael i’w lawrlwytho yma.

Gwres – gwres fforddiadwy

Defnyddiodd ecodyfi gymorth grant gan Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU gynt i helpu deiliaid cartrefi ym Miosffer Dyfi i osod systemau gwresogi sy’n defnyddio adnoddau adnewyddadwy. Aeth 21 o’r 129 o bobl a ddaeth i gysylltiad yn eu blaenau i osod systemau gwresogi sy’n defnyddio peledi coed, pympiau gwres a/neu wres solar.

Cewri yn y Goedwig

Bu’r prosiect cyntaf i ddod o dan frand Biosffer Dyfi’n defnyddio’r celfyddydau i gael pobl i ymwneud â’r amgylchedd naturiol. O fis Mai tan fis Tachwedd 2012, tyfodd tri phen enfawr wedi’u gwneud o ganghennau helyg a deunyddiau bioddiraddiadwy eraill yn glytwaith o flodau a phlanhigion brodorol wrth iddynt nythu’n uchel yn y coed ym Mhantperthog, Machynlleth ac Eglwys-fach.

Please reload

bottom of page