Cynhaliodd Biosffer Dyfi ei Gyfarfod Blynyddol i’r cyhoedd ddiwedd mis Hydref. Roedd yn gyfle i ddathlu blwyddyn lle rydym wedi gallu cynnal digonedd o weithgareddau, diolch i grant gan Lywodraeth Cymru a mewnbwn gan Gomisiwn Cenedlaethol y DU ar gyfer UNESCO. [read in English]
Roedd hefyd yn gyfle i edrych yn ôl dros fwy na chwarter canrif o ecodyfi, y fenter gymdeithasol sydd wedi darparu ysgrifenyddiaeth i’r Bartneriaeth Biosffer ers 2009. Ac wrth gwrs i ddathlu gwaith Andy Rowland, sydd wedi bod yn rheolwr ers 1998 ac wedi ymddeol yn yr haf. Mae ei rôl wedi’i chymryd drosodd gan James Cass a Jane Powell, gyda chyllid o gronfeydd wrth gefn ecodyfi. Bydd hyn yn galluogi'r Biosffer i barhau â'i waith tra'n ceisio'r cyllid hirdymor a fydd yn sicrhau ei ddyfodol.
Yn ddiweddar, cytunodd y Bartneriaeth y dylai’r cwmni sydd hyd yma wedi bod yn masnachu fel ‘ecodyfi’ newid ei enw masnachu i ‘Biosffer Dyfi’. Mae hynny’n golygu bod y Biosffer i bob pwrpas yn endid cyfreithiol, yn hytrach na phartneriaeth, a’i fod mewn gwell sefyllfa i chwilio am arian. Gall fynd ymlaen i fod yn elusen hefyd.
Ond nid hysbysebu ein cefnogwyr o'n newyddion yn unig wnaethon ni. Roedden ni hefyd eisiau rhoi cyfle i bobl ddweud wrthym beth maen nhw'n ei wneud, ac roedden ni'n falch o gael tŷ llawn o bobl o gefndiroedd gwahanol. Roedd gennym ffermwyr a thyfwyr, staff o sefydliadau cymunedol ac amgylcheddol ac ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth, llawer ohonynt yn bartneriaid mewn prosiectau Biosffer ddoe a heddiw.
Yn ogystal, roedd cynghorydd cymuned a nifer o wirfoddolwyr cymunedol sydd yn gweithio ar hanes lleol, garddio cymunedol, cadwraeth gwenoliaid duon, adfer mawndiroedd, rhaglenni lles i blant ysgol, prydau cymunedol, cynlluniau ynni adnewyddadwy a chompostio cymunedol. Roedd yna hefyd bobl a ddaeth fel dinasyddion sydd eisiau cefnogi eu cymuned leol, rhai ohonynt â chysylltiadau hir iawn â'r ardal, eraill yn newydd.
Roedd y digwyddiad yn dyst i’r brwdfrydedd a’r arbenigedd sy’n bresennol yn y Biosffer, a’r awydd sydd gan bobl i fod yn rhan o rywbeth mwy. Er bod llawer o bolisïau’r Llywodraeth yn effeithio ar ein hardal, sy’n cwmpasu materion fel ffermio, bwyd a diod, trafnidiaeth, ynni ac yn y blaen, yr her yw dod â nhw i gyd at ei gilydd, ac roedd yn dda gweld pa mor dda y gall hynny weithio.
Gan ddefnyddio iaith Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mewn lleoliadau a rhanbarthau mae ‘integreiddio’ polisi’r llywodraeth yn digwydd yn naturiol, gyda’i holl heriau. Rydym am wneud mwy o hynny, gan weithio gyda’r llywodraethm busnesau a’r sector gwirfoddol i greu ‘dyfodol cynaliadwy y gallwn oll fod yn falch ohono’, fel y dywed ein datganiad cenhadaeth.
Rydym eisiau nid yn unig gael mwy o weithgarwch ond hefyd meithrin y ddealltwriaeth ddyfnach sy'n creu ymddiriedaeth mewn cyfnod ansicr. Gobeithiwn y bydd pawb sy'n byw yn y Biosffer eisiau bod yn rhan o hyn.
Gallwch lawrlwytho sleidiau o tua 12 o bobl a safodd i fyny a siarad am eu gwaith, isod. Gallwch ddarllen am flwyddyn ddiddorol y Biosffer ar ein blog. Gallwch gofrestru ar gyfer ein cylchlythyr e-bost newydd ar y ddolen hon. A gallwch gysylltu unrhyw bryd drwy e-bostio cydlynydd (yn) biosfferdyfi.cymru. Rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Comments