
Ti Bia'r Biosffer

Cynllun Cyfaill
Oes angen cymorth un i un efo chi i helpu ddatblygu eich busnes o fewn y Biosffer?
Beth am ffurfio cynllun cyfaill gyda Entrepreneur lleol.
Her Ti Bia'r Biosffer: Cyfle i gipio £1,000 am chwip o syniad
Dyma dy gynefin, gwna wahaniaeth, gosod dy farc
Mae Biosffer Dyfi yn chwilio am grwpiau, sefydliadau a busnesau i gynnig syniadau am brosiectau fydd yn
dathlu ac arddangos egwyddorion y Biosffer.
Cynnigir £1000 i wireddu’r prosiect llwyddianus.
Ymgyrch Ffilm Ti Bia'r Biosffer
Pobl ifanc Dyffryn Dyfi yn dathlu pobl, diwylliant a mentergarwch eu cynefin
Mae Menter a Busnes wedi eu comisiynu i weithio gyda phobl ifanc i arddangos Biosffer Dyfi a'i gyfleoedd entrepreneuraidd trwy ymgyrch ffilm a chyfryngau cymdeithasol.
Os hoffech mwy o wybodaeth yng nglyn â unrhyw agwedd o'r prosiect hwn, cysylltwch â Helen Lewis: helen.lewis@menterabusnes.co.uk