Coed a choetiroedd y Biosffer, dewch ynghyd!
- dyfibiosphere
- Apr 24
- 2 min read
Mae croeso i bawb sydd â diddordeb mewn creu cynllun gweithredu ar gyfer coed yn y Biosffer ddod i ddigwyddiad ddydd Llun 11 Mai yn CyDA. [Read in English]

Mae grŵp dan arweiniad Partneriaeth Natur Leol Ceredigion yn cynnal digwyddiad cyhoeddus i gefnogi gwaith coed a choetiroedd yn y Biosffer ddydd Llun 11eg Mai am 1.30-4.30pm yng Nghanolfan uy Dechnoleg Amgen, Machynlleth.
Mae'r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan amrywiaeth o sefydliadau sy'n ymwneud â datblygu coetiroedd ac mae croeso i unrhyw un sy'n berchen ar goetir neu'n ei reoli, neu sydd â diddordeb mewn creu un newydd.
“Y syniad yw manteisio i'r eithaf ar yr holl fuddion y gall coed a choetiroedd eu darparu, gan gynnwys pren, bywyd gwyllt, lloches i dda byw, a lleoedd hardd i ymweld â nhw, a gwneud hynny trwy eu cysylltu a datblygu dull strategol ar draws dalgylch,” meddai Fiona Moran o Bartneriaeth Natur Leol Ceredigion.
“Mae cael y prosiect yn y Biosffer yn golygu y gallwn gysylltu coetiroedd â'n meysydd thematig eraill, gan gynnwys addysg, yr economi lles ac iechyd awyr agored.”
Dywedodd Alice Briggs, rheolwr prosiect partneriaeth Tir Canol, “Mae’n wych gweld y fenter hon i godi ymwybyddiaeth o fanteision y coed a’r coetiroedd yn y Biosffer. Mae hyn yn adeiladu ar ac yn ychwanegu gwerth at y gwaith cadarnhaol sydd gennym eisoes ar y gweill gyda thirfeddianwyr, ffermwyr a chymunedau lleol. Drwy gydweithio drwy’r prosiectau partneriaeth hyn, byddwn ni i gyd yn gallu cyfrannu at Gynllun Gweithredu Adnoddau Coed a Choetiroedd Dyfi sy’n cael ei ddatblygu ar gyfer y dyfodol.”
Yn y digwyddiad, bydd cyfle i ddysgu mwy am y prosiectau coetiroedd ac i benderfynu a ydych chi am ymuno â’r Cynllun Gweithredu. Bydd taith o amgylch y coetir yn CAT, sy’n rhan o'r Goedwig Genedlaethol i Gymru, yn ogystal â lluniaeth ysgafn a thrafodaethau.
Mae’r digwyddiad yn rhan o brosiect sy’n rhedeg tan fis Mawrth 2027. Mae ei weithgareddau eraill yn cynnwys plannu coed, rheoli cynefinoedd, atgyweirio llwybrau troed, ymweliadau ag ysgolion a gwirfoddoli. Nodwedd arall yw marchnata cynhyrchion coetir masnachol fel dodrefn, siarcol a choed ifanc drwy wefan CoedNet.
Mae partneriaid y prosiect yn cynnwys Cyngor Sir Ceredigion, Coed Lleol, Tir Coed, Coetir Anian, RSPB, Llais y Goedwig a Biosffer Dyfi. Mae partneriaid cefnogol yn cynnwys Tir Canol, Coed Cadw/Ymddiriedolaeth Coedlannau Cymru, a Chyfoeth Naturiol Cymru.
Os hoffech fynychu, anfonwch e-bost at Fiona Moran ar fiona.moran@ceredigion.gov.uk erbyn dydd Iau 7 Mai.





