top of page

Prosiectau

Mae llawer o fusnesau, sefydliadau gwirfoddol, ysgolion, unigolion a chyrff cyhoeddus yn cynnal gweithgareddau sy’n helpu i wneud gweledigaeth  y Biosffer i’r ardal yn fwy real. Dyma restr o’r rhai sydd â’r cysylltiad agosaf â menter y Biosffer.

11_edited.jpg

Tyfu Dyfi

Prosiect fydd yn rhedeg tan 30ain Mehefin, 2023 yw Tyfu Dyfi. Y sefydliadau partner yw: ecodyfi (arweinydd), Bwyd Dros Ben Aber, Mach Maethlon, Canolfan Technoleg Amgen, Prifysgol Aberystwyth, Fforwm Cymunedol Penparcau, Garden Organic.

 

Mae'r prosiect peilot hwn yn ymwneud â dangos sut y gall cymunedau fod yn rhan o'u systemau bwyd lleol a chyfrifo'r buddion lluosog sydd ynghlwm a hynny.

 

Mae bwyd yn mynd ar daith o gymhlethdod amrywiol o gynhyrchu i fwyta neu waredu. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar systemau bwyd lleol Cymru a'r cyfleoedd i bobl gymryd mwy o ran ar gamau priodol yn y cylch bywyd. Bydd yr holl dasgau sy'n cynnwys tyfu yn cael eu cynllunio i gyfrannu at seilwaith gwyrdd.

 

Y syniad yw darparu enghraifft genedlaethol sy'n dangos sut y gall sawl sefydliad gydweithredu ar systemau bwyd lleol i ysgogi cynhyrchwyr, defnyddwyr a chymunedau mewn ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol megis mynd i'r afael â thlodi, gwella lles, newid yn yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth.

Ti Bia'r Biosffer Main.png

Ti Bia'r Biosffer

Pobl ifanc Dyffryn Dyfi yn dathlu pobl, diwylliant a mentergarwch eu cynefin.

Mae Menter a Busnes wedi eu comisiynu i weithio gyda phobl ifanc i arddangos Biosffer Dyfi a’i gyfleoedd entrepreneuraidd trwy ymgyrch ffilm a chyfryngau cymdeithasol.

Mae dalgylch yr afon Ddyfi wedi ei ddynodi yn ardal Biosffer gan UNESCO ers dros 10 mlynedd. Yn un o saith ardal biosffer UNESCO yn y Deyrnas Unedig, a’r unig un yng Nghymru, mae’n cynnig cyfleoedd dirifedi i bobl, cymunedau a busnesau'r rhanbarth.

Bydd prosiect Ti bia’r Biosffer yn adnabod y cyfleoedd hynny, a manteisio arnynt ar ffurf cyfres o ffilmiau byr sy’n dangos mentergarwch ar ei orau.

freya train.jpg

Gweithredu Hinsawdd

Budd i'r gymuned leol trwy weithredu ar newid hinsawdd. Cefnogi mentrau gweithredu hinsawdd cymunedol.

Mae Ecodyfi wedi cyflogi Swyddog Hinsawdd rhan-amser i sefydlu cynllun e-feic a rennir ac i hyrwyddo gwella effeithlonrwydd ynni cartref gan ddefnyddio camerâu thermol. Mae hyn gyda chefnogaeth Cronfa Hwb Hinsawdd y Loteri Genedlaethol.

 

Cliciwch y ddolen hon i ddarganfod sut i fenthyg efeic, benthyg camera thermol, gweld rhifynnau o Gylchlythyr Gweithredu Hinsawdd Machynlleth, neu gymryd rhan mewn ffyrdd eraill.

Cambrian News 27.01.22.jpeg

Prosiect Gwennol Ddu Biosffer Dyfi

 

Mae Grŵp Bioamrywiaeth Machynlleth wedi ymuno â selogion wennol ddu lleol, sydd wedi’u cysylltu drwy dudalen Facebook Natur Dyfi, i ariannu, adeiladu a gosod blychau gwennol ddu ar adeiladau addas ym Miosffer Dyfi. Mae'r grŵp wedi llwyddo i adeiladu 20 o focsys nythu cychwynnol drwy arian a roddwyd ac amser seiri, ac wedi derbyn cyllid gan Elusennau Garthgwynion ar gyfer mwy. Allwch chi helpu i godi'r blychau ar adeiladau? Cysylltwch ag andy@ecodyfi.cymru os hoffech chi gael blwch nythu, i gyfrannu, neu wirfoddoli i wneud Machynlleth yn ‘Brifddinas Gwennonl Ddu Cymru’

Dolau Dyfi

Nod Prosiect Dolau Dyfi yw gwella a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt a helpu i gysylltu pobl a byd natur drwy amrywiaeth o weithgareddau mewn cymunedau lleol ac yn yr ardal ehangach. Bydd y prosiect hwn yn ymgymryd â gwaith i wyrdroi’r dirywiad yn lleol ac felly’n gwella ac yn adfer cynefinoedd o flodau i bobl leol ac ymwelwyr eu mwynhau, ac o fudd hefyd i bryfed peillio, adar tir amaethyddol a rhywogaethau eraill, gan greu cyfleoedd newydd i weithio gyda byd natur. 

Bydd y prosiect hefyd yn buddsoddi mewn rhaglen o deithiau tywys a gweithgareddau gwirfoddolwyr, er budd iechyd a lles, drwy gydol cyfnod y prosiect, sy’n weithredol tan ddiwedd mis Mehefin 2022.

Ffermio Cymysg – hanesion a’r dyfodol

Amcan allweddol y prosiect ‘Ffermio cymysg - hanesion a dyfodol’ a ariennir gan LEADER yw dangos, yn hanesyddol, bod ffermio cymysg - tyfu cnydau yn ogystal â magu da byw - yn llawer mwy cyffredin yng Nghymru nag y mae rŵan. Y nod yw helpu i ddadlau dros gefnogi amaethyddiaeth gymysg gynaliadwy ac economi cynhyrchu bwyd lleol mwy gwydn. Mae’r prosiect yn seiliedig ar y gydnabyddiaeth mai ffermydd teuluol bach yw conglfaen economi, diwylliant a thirwedd wledig y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yng Nghymru.

  

Allwedd Map - Defnydd tir yn ardal Machynlleth yn y 1830au.

 

             Brown tywyll = gerddi âr a marchnad, Porffor = gerddi, perllannau a rhandiroedd.

 

Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar ddata a ddarparwyd trwy www.VisionofBritain.org.uk ac mae'n defnyddio deunydd map hanesyddol yr Arolwg Defnydd Tir sy'n hawlfraint The Land Utilization Survey of Great Britain, 1933-49, hawlfraint Audrey N. Clark

Trywydd Iach

Mae Ecodyfi a Coed Lleol (Small Woods Wales) wedi ymuno i helpu ein cymuned i fod yn egnïol yn yr awyr agored yn Biosffer Dyfi i wella iechyd a lles.

Gall y Meddyg Teulu neu'r gweithiwr iechyd proffesiynol atgyfeirio unigolion, neu gallant atgyfeirio eu hunain.

Dechreuodd y rhaglen gyntaf o weithgareddau ym mis Hydref 2019.

Cronfa Ynni Cymunedol Dyfi

Menter gydweithredol i gynhyrchu ynni yw Ynni Adnewyddadwy Cymunedol Bro Ddyfi Cyf a gododd ddau dyrbin gwynt y tu ôl i Ganolfan y Dechnoleg Amgen ym Mhantperthog. Mae peth o’r elw yn cael ei roi i Gronfa Ynni Cymunedol a reolir gan ecodyfi, ar ran y fenter a Chynghorau Cymuned Corris a Glantwymyn. Mae’r Gronfa’n rhoi grantiau i sefydliadau lleol ar gyfer prosiectau sy’n lleihau allyriadau carbon, fel uwchraddio’r goleuadau yn Neuadd Bentre Pantperthog.

Please reload

CobCym
bottom of page