top of page
Search

Awyr Iach, prosiect iechyd awyr agored newydd

  • dyfibiosphere
  • 2 days ago
  • 2 min read

Mae'r Biosffer yn bartner mewn prosiect newydd a arweinir gan Coed Lleol. Mae'n dechrau ym mis Gorffenaf. Read in English


Mae Awyr Iach, gwasanaeth iechyd awyr agored sy’n galluogi pobl i gael mynediad at weithgareddau awyr agored ym myd natur i roi hwb i’w llesiant a’u hiechyd, wedi derbyn cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Bydd yn wasanaeth am ddim a fydd ar gael drwy ysbyty Cymunedol newydd Bro Ddyfi ym Machynlleth.    


Mae'r Biosffer yn falch o fod yn bartner yn y brosiect fel rhan o'n ngwaith i gysylltu pobl â byd natur. Darllenwch fwy am iechyd awyr agored.

 

Cafodd Awyr Iach ei ysbrydoli gan yr ardal ei hun ac ysbyty gwreiddiol Machynlleth, lle cafodd nifer o gleifion TB driniaethau ’awyr iach’ i wella eu cyflyrau.  

 

Dywedodd Kate Jones, trigolyn lleol; `Rwyf wedi byw ym Mro Ddyfi ers 52 mlynedd, 27 o’r rheiny yn gweithio yn yr hen ysbyty brest fel Cynorthwyydd Gofal. Rwyf wedi dysgu bod y gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau iechyd yr awyr agored yn fuddiol dros ben i fy llesiant, gan wella fy symudedd a fy rhoi mewn cyswllt â byd natur a phobl leol.’  

 

Fel rhan o ddatblygu’r gwasanaethau, cymerodd 445 o bobl ifanc ac oedolion lleol ran mewn arolwg a oedd yn dangos yr angen am y gwasanaeth iechyd awyr agored newydd hwn. Dywedodd 80% o’r rhai a holwyd eu bod eisiau gwasanaeth natur ar bresgripsiwn i ategu gofal clinigol yr ysbyty. Mynegodd 43% eu bod yn dioddef o iselder a gorbryder a dywedodd 33% eu bod yn dioddef o broblemau symudedd a phoen yn y cymalau. Dywedodd 98% y gallai gweithgareddau byd natur gynorthwyo i wella’r problemau hyn. Mae astudiaethau wedi dangos y gall byd natur leihau hormonau straen fel cortisol, gyda dwy awr yr wythnos ym myd natur yn rhoi hwb sylweddol i iechyd a llesiant.  

 

Bydd y gwasanaeth Awyr Iach yn cynnig gweithgareddau am ddim ym myd natur dan arweiniad pobl broffesiynol i bawb o bob oedran, gan gynnwys sgiliau coetir, coginio a fforio, cerdded, ymwybyddiaeth ofalgar a chrefftau. Byddant yn cael eu cynnal ym mannau gwyrdd yr Ysbyty ac ym Machynlleth, yn ogystal ag mewn dau ‘Hwb Llesiant Goetir’ pwrpasol.  Bydd cerbyd cymunedol newydd a thrydanol i gario pobl dan reolaeth cwmni lleol, TrydaNi, yn cynorthwyo pobl i wneud defnydd o’r gwasanaethau hyn.  

 

Gall pobl leol gofrestru ar-lein neu wyneb yn wyneb drwy Swyddog Ymgysylltu ag Iechyd Awyr Agored yn yr Ysbyty neu eu Meddyg Teulu. 

 

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys - `Rydym yn falch iawn o gymryd rhan yn Awyr Iach, gan ddod â chryfderau ac arbenigedd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Canolfan Gofal Sylfaen, PAVO a sefydliadau lleol oll ynghyd am y tro cyntaf fel un gwasanaeth iechyd awyr agored sy’n ategu gofal clinigol’.  

 

Gyda bron i 20% o’r rheiny a holwyd yn datgan y byddent yn hoffi gwirfoddoli i gynorthwyo â darparu’r gwasanaeth, bydd Awyr Iach hefyd yn cynnig cyfleoedd i wirfoddoli mewn cadwraeth, garddio a cherdded.  

 

Coed Lleol fydd yn arwain Awyr Iach, mewn partneriaeth â Biosffer Dyfi a TrydaNi a’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, i’w gynnal am y tair blynedd nesaf.  

 

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â rosiestrang@smallwoods.org.uk, 07966 071073 


 
 
 

Comments


bottom of page