top of page
Search

Cyfarfod Blynyddol 2025: mosaig o weithgareddau

  • dyfibiosphere
  • 2 days ago
  • 2 min read

Updated: 12 hours ago

Bob blwyddyn rydym yn cynnal cyfarfod cyhoeddus i rannu newyddion y Biosffer ac er mwyn i bobl yr ardal gysylltu â'i gilydd a rhannu ysbrydoliaeth. Roedd y cyfarfod eleni yr un mor gofiadwy ac erioed. Read in English


ree

Fe wnaethon ni gyfarfod eleni yng nghyntedd MOMA, Machynlleth, yng nghanol Andamento, arddangosfa gan yr artist o Aberystwyth, Alison Pierse. Mae'n rhedeg tan 26 Ionawr - peidiwch â'i cholli! Fel mae Alison yn ei egluro, 'Mae Andamento yn disgrifio llif teils o fewn mosaig; ond mae hefyd yn disgrifio symudiad neu esblygiad' ac roedd yn ddelwedd dda ar gyfer gwaith y Biosffer, gan integreiddio gwahanol ddarnau o waith a dod o hyd i ystyr a chyfeiriad yn y cyfan.


Roedd yn gyfle edrych yn ôl dros flwyddyn arwyddocaol iawn i'r Biosffer: ffarwelio ag ecodyfi gan archifo'r papurau ar gyfer y Llyfrgell Genedlaethol; prosiect gwyddoniaeth dinasyddion Sgrechian a Socian; lansio prosiect Awyr Iach; cryfhau ein perthynas gyda Biosfferau arall y DU a safleoedd eraill UNESCO yng Nghymru; a newid ein cyfansoddiad a chyflwyno cais am gyllid craidd i Lywodraeth Cymru.


Rydyn ni hefyd wedi dechrau gwaith ar gynllun pum mlynedd i'r Biosffer a fydd yn rhedeg tan 2030, ar ôl ein Hadolygiad Blynyddol nesaf yn 2029.


Er mai staff y Biosffer fydd yn edrych ar ôl y cynllun yma, ein partneriaid a'r gymuned fydd yn arwain y gwaith a chytuno ar y cyfeiriad. Felly am weddill y noson, siaradwyr gwadd oedd yn cyflwyno eu gwaith. Mae gan bob Biosffer dair prif swyddogaeth - datblygu, cadwraeth ac addysg - ac dyna felly oedd strwythur y noson.


Economi llesiant - Dyma maes gwaith sydd angen mwy o sylw, er bod y Biosffer wedi cyflawni sawl prosiect ar dwristiaeth, bwyd ac ynni yn y gorffennol. Cafwydd cyflwyniadau gan Asiantaeth Ynni Severn Wye, Cwmni Nod Glas, Tir Canol a Phorthi Aber.


Cysylltu â byd natur - mae hwn wedi bod yn elfen gryf o'r Biosffer yn ddiweddar, yn llawn potensial o ran recordio bioamrwyiaeth, gwarchod natur a iechyd. Clywsom am Awyr Iach, Coetir Anian, Partneriaeth Natur Lleol Ceredigion (Coedwig Cenedlaethol i Gymru), Lab Dwr Dyffryn Dyfi a New Dovey Fishery Association.


Diwylliant, ymchwil, addysg - prosiect gwyddoniaeth Sgrechian a Socian, gyda Phrifysgol Aberystwyth ac eraill, oedd uchafbwynt y flwyddyn ond mae llawer mwy yn digwydd yn y maes yma: CyDA yn weithgar iawn gyda chyrsiau a seminarau; prosiectau treftadol fel Stablau Machynlleth; Aberystywth yn dod yn Ddinas Llên; ein grwp addysg yn cwrdd eto; a bywyd newydd i ganolfan ymwelwyr Ynyslas.


Yn anffodus roedd sawl siaradwr yn sâl neu yn methu dod am reswm arall, ond rydym wedi cynnwys eu sleidiau yn y cyflwyniad isod.




Daeth y cyfarfod i ben gyda bwyd a sgwrs, a chylch i rannu syniadau. Un o'r rhain oedd digwyddiad undydd i 'adeiladu'r myceliwm' - felly cadwch lygad am hynny yn y flwyddyn newydd.


Llun: Alison Pierse, â chaniatad caredig. Mae Alison hefyd yn arwaid teithiau cerdded Aberystwyth yn Aberdabbadoo. 

 
 
 

Comments


bottom of page