top of page
Search

Heddwch, UNESCO a Chymru

  • dyfibiosphere
  • 1 day ago
  • 1 min read

Sut mae'r Biosffer yn gallu cyfrannu tuag at heddwch? Mae yn rhan o hen draddodiad ac mae adroddiad newydd yn awgrymu lle y gellir arwain. Read in English

'Ar draws y Dyfi', paentiad olew ar gyfer y Biosffer gan Nicki Orton
'Ar draws y Dyfi', paentiad olew ar gyfer y Biosffer gan Nicki Orton

“Gorwedd fy ngobeithion am ddifodiant y gyfundrefn ryfel yn argyhoeddiad barhaus y bobl, yn hytrach nag ym mholisïau cabinet a thrafodaethau senedd.”


Mae geiriau'r ymgyrchydd heddwch o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, Henry Richard, a gymerwyd o'i gofeb yn Nhregaron, yn mynegi'n dda bwysigrwydd 'heddwch cadarnhaol', hynny yw, cymdeithas sydd â lefel uchel o ymddiriedaeth ac sy'n gallu rheoli gwrthdaro yn fedrus.


Mae Biosffer Dyfi yn rhan o draddodiad hir o adeiladu heddwch yng Nghymru, a ddisgrifir gennym yn y dudalen we newydd hon. Fel rhan o UNESCO mae ei wreiddiau yn y gwersi a ddysgwyd o ddau ryfel byd, ond mae'n adeiladu ar draddodiad cynharach o ryngwladoldeb Cymreig.


Mae adroddiad newydd gan Academi Heddwch Cymru yn dadlau y gall Cymru wella ei llywodraethiant a datblygu hunaniaeth genedlaethol nodedig trwy ddod yn Genedl Heddwch. Byddai hyn yn golygu nid yn unig mentrau polisi ar gyfer llywodraeth genedlaethol ond cyfeiriad teithio sy'n cynnwys y gymdeithas gyfan, gan gynnwys llywodraeth leol a sefydliadau cymdeithas sifil.


Mae hwn yn sicr yn ddisgrifiad da o'r hyn y mae'r Biosffer yma i'w wneud, sef meithrin ymddiriedaeth a chysylltiad ac wynebu anawsterau'n onest.


 
 
 

Comentarios


bottom of page