Oen Biosffer wedi'i weini mewn digwyddiad UNESCO yn Llundain
- dyfibiosphere
- 2 days ago
- 1 min read
Bwyd Biosffer Dyfi yn cael sylw rhyngwladol. Read in English

Mae'r cogydd Mauro Colagreco yn Llysgennad Ewyllys Da UNESCO. Mae'n eiriol dros gynhwysion lleol, cynaliadwy a thechnegau coginio traddodiadol, yn ogystal â chamau gweithredu UNESCO dros fioamrywiaeth, yn enwedig ei raglen 'Man and Biosphere' y mae ein Biosffer yn rhan ohoni. Cynrychiolodd UNESCO yng Nghynhadledd Bioamrywiaeth COP16 yn Ngholombia a dywedodd: "Ar adeg pan fo dros filiwn o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion mewn perygl o ddiflannu, gall dewisiadau bwyd cynaliadwy wneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r blaned."

Ym mis Mawrth trefnodd bryd saith cwrs yn cynnwys cynhwysion o bob un o saith Biosffer y DU, a weinwyd yn Raffles yn Llundain.
Roeddem wrth ein bodd bod cydweithfa gynhyrchwyr Machynlleth, Tymhorau, wedi gallu cyflenwi cig oen morfa heli ar gyfer y pryd.

Dywed Tymhorau:
"Mae ein cynhyrchwyr cig yn gofalu am eu hanifeiliaid gan ddefnyddio arferion sy'n cefnogi'r amgylchedd. Maent yn aml yn dewis bridiau treftadaeth sydd wedi'u bridio ers cenedlaethau i ffynnu yn ein hinsawdd, sy'n golygu bod yr anifeiliaid yn treulio eu bywydau y tu allan yng nghefn gwlad hardd Cymru, yn byw bywyd mwy naturiol, ac angen llai o rawn a mewnbynnau eraill, gan leihau milltiroedd teithio eich bwyd."
Comments