Y Llusern Hud yn Nhywyn, busnes sydd yn dod â dychymyg i'r gymuned
- dyfibiosphere
- 3 days ago
- 3 min read
Mae sinema boblogaidd y Llusern Hud yn Nhywyn bellach yn Sinema y Flwyddyn y DU. Aeth y Biosffer i siarad â chyd-perchennog y busnes i ddysgu mwy. [Read in English]

Cafodd Sinema’r Llusern Hud Tywyn ei choroni’n Sinema’r Flwyddyn gyntaf erioed ddiwedd y llynedd yng Ngwobrau Ffilm Annibynnol Prydain. Wedi’i lleoli yn Ystafell Ymgynnull Tywyn o 1893 a ddechreuodd ddangos ffilmiau mor gynnar â 1901, curodd dros 130 o sinemâu o bob cwr o’r DU mewn cystadleuaeth a oedd yn cynnwys mwy na 100,000 o bleidleisiau.
I’r cyd-berchennog Sara Hulls, sy’n rhedeg y lleoliad sinema gyda dros 20 o staff rhan-amser, roedd y wobr yn gydnabyddiaeth o’r cyfraniad y mae’r busnes yn ei wneud i fywyd diwylliannol y gymuned, a’r perthnasoedd y maent wedi’u meithrin dros y blynyddoedd, yn enwedig ers Covid.
“Cefnogwyd ein henwebiad gan tua 1400 o negeseuon gan y cyhoedd, llawer yn ysgrifennu i mewn i ddweud pa mor hanfodol yw’r sinema i fywyd y dref, a pha mor dorcalonnus fyddent pe na baem ni yma,” meddai, gan esbonio sut maen nhw wedi gweithio’n galed i ddatblygu cynnig diwylliannol sy’n fuddiol i’r ardal.
“Rydyn ni’n adnabod ein cynulleidfa, ac maen nhw’n ein hadnabod ni. Rydyn ni’n dangos amrywiaeth enfawr o deitlau, y mwyaf poblogaidd yw ffilmiau sy'n cadarnhau bywyd ac yn cynhesu'r galon, gan gynnig dihangfa o’r byd go iawn am ychydig oriau. Mae ffilmiau natur hefyd yn boblogaidd.”
Mae’r sinema hefyd yn ffrydio perfformiadau o’r Theatr Genedlaethol a’r Tŷ Opera Brenhinol, yn cynnal sioeau theatr byw ac yn trefnu nosweithiau parti ar thema ffilm, a gellir hefyd ei llogi ar gyfer digwyddiadau preifat. Ar hyn o bryd mae’n cynnal tymor o ddigwyddiadau Cymraeg.
Mae bwyd a diod yn rhan bwysig o’r profiad. Cyrhaeddwch mewn da bryd, a gallwch archebu lluniaeth sy’n cael ei weini ar fwrdd wrth eich sedd – ac mae’r fwydlen yn cynnwys byrddau charcuterie, nachos a the prynhawn, coctels a chwrw Cymreig, pob un wedi’i weini heb blastig untro.
Yr hyn sy’n arbennig o ddiddorol yw’r ffordd y mae’r Llusern Hud yn cyfuno budd cymdeithasol â phroffidioldeb. Nid elusen nac yn fenter gymdeithasol mohoni, ac nid yw’n dibynnu ar wirfoddolwyr, ac eto mae’n canolbwyntio ar wasanaethu’r gymuned yn hytrach na thynnu gwerth ohoni, enghraifft ardderchog o’r ‘economi llesiant’ y mae Cymru’n anelu ati.
Mae'r sinema yn darparu swyddi sy'n gofyn am lawer o sgiliau, gan gynnwys taflunio, peirianneg sain, cynllunio digwyddiadau, swyddfa docynnau a chegin, ac mae'r gwaith yn cael ei rannu ymhlith y tîm gyda'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud y rhan fwyaf o'r swyddi, fel bod pawb yn teimlo'n rhan o'r fenter. Mae'r berthynas â'r cwsmeriaid yn gryf hefyd.

“Rydym yn adnabyddus yn y dref ac rydym yn gwneud llawer i'r gymuned – pedwar dangosiad am bris gostyngol yr wythnos, cerddoriaeth fyw am ddim bob nos Wener a ffilm a phryd am ddim ar Ddydd Nadolig,” meddai Sara. “Derbyniom tua £1000 o roddion ar gyfer ein digwyddiad Nadolig, ac nid oedd yn rhaid i ni ofyn hyd yn oed. Mae pobl yn rhoi oherwydd eu bod eisiau helpu a bod yn rhan o ddigwyddiad arbennig iawn."
Mae Tywyn wedi bod yn rhan o'r Biosffer ers 2020, a dim ond un enghraifft o fywyd dinesig bywiog y dref yw'r Llusern Hud, sy'n gwasanaethu rhanbarth llawer mwy. Edrychwn ymlaen at wneud mwy o gysylltiadau â'r dref.
Delweddau wedi'u cyflenwi gan y Llusern Hud






Comments