top of page

Acerca de

CFf_Sara_Jenkins edit.png

Sara Jenkins

Ar ôl gweithio i Menter a Busnes ar raglen Cyswllt Ffermio Llywodraeth Cymru ers dros 10 mlynedd, mae Sara wedi cymryd newid gyrfa yn ddiweddar i gyd-sefydlu a gweithio ar fenter gwerthu llaeth fel rhan o fferm deuluol ei gŵr, ger Talybont. Mae gan y fenter Llaeth Teulu Jenkins beiriannau gwerthu llaeth yn Aberystwyth a Machynlleth ac maent yn cyflenwi nifer o siopau, caffis a bwytai lleol gyda llaeth organig wedi'i basteureiddio.

Mae Sara wedi gweithio'n helaeth gyda pherchnogion busnes i gefnogi a hwyluso datblygu cynnyrch ac arallgyfeirio yn y gorffennol ac mae ganddi brofiad busnes ymarferol yn y diwydiannau lletygarwch, twristiaeth a bwyd-amaeth.

Mae gan Sara Dystysgrif Ôl-raddedig o Brifysgol Aberystwyth mewn Ymgynghoriaeth Fferm a Chyfnewidfa Wybodaeth ac mae wedi cwblhau modiwlau achrededig mewn cymell a mentora.

Mae Sara yn siaradwr Cymraeg rhugl ac yn fam i dri o blant ifanc.

bottom of page