top of page

Ymgyrch Ffilm Ti Bia'r Biosffer

Ti Bia'r Biosffer Main.png

Pobl ifanc Dyffryn Dyfi yn dathlu pobl, diwylliant a mentergarwch eu cynefin


Mae Menter a Busnes wedi eu comisiynu i weithio gyda phobl ifanc i arddangos Biosffer Dyfi a'i gyfleoedd entrepreneuraidd trwy ymgyrch ffilm a chyfryngau cymdeithasol.

Mae dalgylch yr afon Ddyfi wedi ei ddynodi yn ardal Biosffer gan UNESCO ers dros 10 mlynedd. Yn un o saith ardal biosffer UNESCO yn y Deyrnas Unedig, a'r unig un yng Nghymru, mae'n cynnig cyfleoedd dirifedi i bobl, cymunedau a busnesau'r rhanbarth.

Bydd prosiect Ti bia'r Biosffer yn adnabod y cyfleoedd hynny, a manteisio arnynt ar ffurf cyfres o ffilmiau byr sy'n dangos mentergarwch ar ei orau.

Pobl ifanc yr ardal fydd yn cynhyrchu'r ffilmiau, felly mae Menter a Busnes yn chwilio am bobl ifanc brwdfrydig a chreadigol rhwng 16 a 30 oed, sy'n awyddus i ddatblygu sgiliau cyflwyno a chreu ffilmiau i ymuno â'r criw cynhyrchu. Bydd y ffilmiau yn cael eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Mae'n brosiect cyffrous ac yn gyfle i'r criw ddysgu sut i ddylunio ymgyrchoedd cyfryngau cymdeithasol effeithiol, a'i harfogi i'w defnyddio i godi proffil eu llwyfannau digidol eu hunain" dywedodd Einir Davies, Menter a Busnes.

Trwy fod yn rhan o'r prosiect, bydd pobl ifanc yr ardal yn derbyn hyfforddiant cyfryngau, cynhyrchu ffilm a chyfrathrebu ac yn dysgu sut gellir gwneud y mwyaf o Biosffer Dyfi er lles eu cymunedau a'r economi leol.

Pa fath o beth fydd y criw cynhyrchu yn gwneud?

1. Darganfod beth yw'r posibiliadau ar gyfer cychwyn busnes yn ardal Biosffer Dyfi

2. Derbyn hyfforddiant cyfyngau er mwyn datblygu sgiliau cyflwyno a chyfweld

3. Dysgu sut i gynhyrchu ffilmiau byr

4. Adnabod a chyfweld entrepreneuriaid lleol i'w cynnwys yn y ffilmiau

5. Helpu i ddylunio a gweithredu ymgyrch cyfryngau cymdeithasol i arddangos y cyfleoedd sydd i gychwyn busnes yn yr ardal

Gweithdau headers.png

Wedi'i ohirio 

GWEITHDY 1 – SUT I RANNU DY STORI

Dyddiad: Dydd Iau 9fed Medi 2021

Amser: 4:00yp – 8:00yh (darperir swper)

Lleoliad: Canolfan Natur Dyfi (Prosiect Gweilch y Dyfi), Derwenlas, Machynlleth, SY20 8SR

 

Mae gallu cyfathrebu yn effeithiol yn un o sgiliau allweddol bywyd, ac yn enwedig yn y byd busnes. 

 

O fewn y sesiwn yma:

  • Beth sy’n gwneud stori dda?

  • Sut mae cynhyrchu ffilmiau effeithiol o safon ar ddyfais symudol?

  • Pa ffactorau sy’n arwain at gyfrif cyfryngau cymdeithasol cryf?

Gweithdy dan arweiniad Sara Gibson y cyn-ohebydd newyddion gyda’r BBC o Aberystwyth.

Mae archebu lle yn hanfodol. Cysylltwch â Helen Lewis drwy ebostio helen.lewis@menterabusnes.co.uk neu drwy ffonio 07376613856 i gadw eich lle.

 

  

Cyfres o weithdai am ddim ar gyfer bobl busnes a darpar entrepreneuriaid o fewn ardal Biosffer Dyfi

Cliciwch yma i weld y cyrsiau sydd ar gael i CHI!

bottom of page