top of page

Tyfu Dyfi - Safleoedd Tyfu Cymunedol

Mae gan Tyfu Dyfi adnoddau ar gael i gefnogi datblygiad nifer o safleoedd tyfu o fewn neu gerllaw ardaloedd preswyl o fewn Biosffer Dyfi. Os hoffech fynegi eich diddordeb ac awgrymu un neu fwy o safleoedd i’w hystyried gan y prosiect, darllenwch y canlynol.

Nod Tyfu Dyfi yw cynyddu nifer y safleoedd tyfu cymunedol yn ardal Biosffer Dyfi

Sylwch fod ein dehongliad o’r term ‘safle tyfu’ yn eang, gan gwmpasu unrhyw beth o erddi cymunedol, rhandiroedd, i erddi coedwig, perllannau cymunedol, syniadau ar gyfer coedwigoedd bwyd, ac ati.

Yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw detholiad da o syniadau ar gyfer safleoedd tyfu sy'n cynnwys ac sydd â chefnogaeth lwyr y gymuned leol. Rhaid i’r cynigion yr ydym yn eu cefnogi allu cael eu cynnal y tu hwnt i ddiwedd prosiect Tyfu Dyfi ym mis Mehefin 2023.

Gallwn helpu i sefydlu safleoedd newydd neu wella safleoedd presennol. Bydd pa gymorth a ddarparwn yn union yn dibynnu ar ofynion safle penodol, enghreifftiau o’r math o gymorth y gallwn ei ddarparu o bosibl yw:

  • Hyfforddiant, ee, garddwyr gwirfoddol

  • Costau sy’n ymwneud â gwaith safle, e.e., twnnel polythen/tŷ gwydr, gwelyau uchel, compostiwr, ffensys, pibellau dŵr, berfau / whilberau, ac ati

  • Costau deunyddiau, e.e., compost, graean, ac ati

  • Help gyda chostau prydlesu

Sylwch nad ydym yn eithrio gerddi cartrefi; mae gennym yr opsiwn o gynnal sesiynau hyfforddi a gweithdai sy’n addas i bobl eu mynychu a chaffael sgiliau i’w defnyddio yn eu gerddi eu hunain, yn ogystal ag mewn safleoedd cymunedol.

Mynediad i'r Ffurflen Mynegi Diddordeb

Ffurflen MD

Os oes gennych ddiddordeb o hyd mewn cael eich syniad ar gyfer safle tyfu cymunedol wedi'i ystyried gan dîm Tyfu Dyfi, cliciwch ar y botwm ar y chwith - mae hwn yn cysylltu â ffurflen Google fer a ddylai, os byddwch yn ei llenwi, roi digon o wybodaeth i ni gallu cynnal asesiad cychwynnol i weld a yw eich awgrym yn rhywbeth y gallem ei gefnogi. Efallai nad oes gennych lawer o fanylion eto - mae hynny'n iawn - hoffem glywed gennych o hyd! A fyddech cystal â chael rhywbeth i mewn erbyn Dydd Llun 7fed o Chwefror 2022 os gallwch chi, er nad yw hwn yn ddyddiad cau terfynol a bydd yr alwad yn parhau i fod ar agor. 

 

SYLWCH: Mae'r alwad bresennol wedi CAU. Fe all fod galwadau i'r dyfodol yn ddibynnol ar ddatblygiad y prosiect. 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd aelodau perthnasol consortiwm Tyfu Dyfi yn cyfarfod yn rheolaidd i asesu’r Mynegiannau o Ddiddordeb a gawn a dewis pa safleoedd tyfu yr ydym yn mynd i’w cefnogi.

Bydd y meini prawf dethol a ddefnyddiwn yn y broses uchod yn amlwg wrth i chi lenwi’r ffurflen, ond yn gryno, rydym yn edrych yn bennaf am safleoedd tyfu sydd :

  • A chefnogaeth gymunedol gref a fydd yn denu cyfranogiad cryf gan y gymuned

  • Bydd yn cael ei gynnal a bydd y safle yn bodoli ymhell ar ôl prosiect Tyfu Dyfi

  • Yn hygyrch ac mewn ardaloedd preswyl (neu'n agos iawn ato);

  • Bod â pherchnogaeth tir glir, tirfeddiannwr cefnogol a dim problemau hawliau tramwy, cyfyngiadau cynllunio, materion gwasanaeth. etc

  • Yn werth am arian

  • Yn addas o ran maint ac yn ddiogel ar gyfer y gweithgareddau arfaethedig

  • Cael cefnogaeth ehangach y tu hwnt i'r gymuned breswyl uniongyrchol, ee, grwpiau cymunedol eraill, busnesau, ysgolion

  • Cyfrannu at seilwaith gwyrdd ehangach

Unwaith y byddwn wedi ystyried eich mynegiant o ddiddordeb, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi am y canlyniad, ar gyfer y safleoedd hynny a ddewiswn ar gyfer cymorth Tyfu Dyfi, mae'n debygol y bydd angen rhagor o wybodaeth a thrafodaeth arnom.

bottom of page