
Biosffer UNESCO Cymru

Ti Bia'r Biosffer
Pobl ifanc Dyffryn Dyfi yn dathlu pobl, diwylliant a mentergarwch eu cynefin.
Bydd prosiect Ti Bia’r Biosffer yn adnabod cyfleoedd, a manteisio arnynt ar ffurf cyfres o ffilmiau byr sy’n dangos mentergarwch ar ei orau.
Aberystwyth a dyffryn ehangach Dyfi
Mae Biosffer Dyfi UNESCO yn ysbrydoli pobl a sefydliadau i gydweithio wrth greu dyfodol cynaliadwy y gallwn oll fod yn falch ohono. Mae'n cysylltu pobl â natur a’n treftadaeth ddiwylliannol tra’n cryfhau'r economi lleol.
Mae’r tirweddau yn y rhan yma o ganolbarth Cymru’n ymestyn o weunydd a mawnogydd yr ucheldir i lawr i aber llydan a thwyni tywod a thraethau, gan gynnwys coetir llydanddail, coedwig gonwydd, tir amaeth, morfa a mawnog lawr gwlad helaeth, sy’n golygu ei fod yn hafan i fywyd gwyllt.
Mae dyfrgwn yn nofio yn yr afonydd, daw gweilch y pysgod i nythu, mae barcutiaid coch yn hawdd eu gweld ac mae podiau o ddolffiniaid yn ymweld â’r traethau’n rheolaidd; ceir gwarchodfeydd natur sy’n berffaith ar gyfer gwylio adar gan gynnwys prosiect Gweilch y Pysgod Dyfi a gwarchodfa RSPB.
Man perffaith ar gyfer gwyliau yw canolbarth Cymru gyda’i lwybrau cerdded hardd fel Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Glyndŵr a digon i’r rheini sy’n hoffi anturio fel beicio mynydd a syrffio.
Ceir llawer o wahanol fathau o leoedd i aros, mewn amrywiaeth o leoliadau, fel tref brifysgol fywiog Aberystwyth, tref farchnad Machynlleth neu draethau gwyliau’r Borth ac Aberdyfi.

Mae'r cymunedau dwyieithog yn falch o statws Biosffer Dyfi sydd wedi'i rhoi gan UNESCO yn 2009.

Tywydd yn y Biosffer
Gwarchodfa Biosffer UNESCO
Mae statws Gwarchodfa Biosffer UNESCO yn cynnig cydnabyddiaeth a chyfle i’r ardal yn hytrach na chyfyngiadau, oherwydd mai gwirfoddol yn hytrach na statudol yw’r dynodiad. Mae pobl, busnesau a sefydliadau’n manteisio arno drwy gymryd rhan. Nid oes unrhyw gyllid gan y Bartneriaeth gydlynol ei hun ond gall partneriaid weithredu yn ei enw. Weithiau maent yn dod ag adnoddau newydd i’r ardal megis cyllid ac arbenigedd.
Datblygu Cynaliadwy

Mae Gwarchodfeydd Biosffer yn edrych yn lleol ar sut gall bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cydnerth gael eu seilio ar amgylcheddau iach.
Addysg ac Ymchwil

Mae Gwarchodfeydd Biosffer yn edrych yn lleol ar sut gall bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cydnerth gael eu seilio ar amgylcheddau iach.
Newyddion
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ffermio cynaliadwy, yn mwynhau gweithio gyda chymunedau lleol ac yn gallu cadw prosiectau ar y trywydd iawn?
Mae ecodyfi yn chwilio am Reolwr Prosiect hunangyflogedig am tua 3 diwrnod yr wythnos tan Chwefror 2024.
************
Yr Adolygiad Cyfnodol
Daeth yr ardal yn Fïosffer yn 2009, ac yn ôl rheoliadau UNESCO rhaid cynnal arolwg 10 mlynedd ohono yn awr er mwyn cadw ei statws.
Gallwch weld y dogfennau yma.
Argymhellwyd a chymeradwywyd yr arolwg ym Medi 2021
************
Tyfu Dyfi
Mae Prosiect Tyfu Dyfi yn brosiect a ariennir gan Grant Ewropeaidd a fydd yn rhedeg tan 30ain Mehefin, 2023. Y sefydliadau partner yw: ecodyfi (arweiniol), Bwyd dros ben Aber, Mach Maethlon, Canolfan Technoleg Amgen, Prifysgol Aberystwyth, Fforwm Cymunedol Penparcau, Garden Organic.
Cliciwch ar y ddolen yma i ddarganfod mwy.
