• Facebook Social Icon
  • Twitter Social Icon
  • YouTube Social  Icon
  • Instagram Social Icon

Dyfi Biosphere Social Media channels:

Biosffer UNESCO Cymru

Chwedlau'r Biosffer

Neidiwch ar y Chwedldaith i glywed holl straeon yr ardal mewn diwrnod llawn cerddoriaeth, cyffro a sbri, ac yna ewch draw i bromenâd Aberystwyth lle bydd pyped enfawr yn esbonio pam mae’r Biosffer yn lle mor arbennig.

Aberystwyth a Bro Ddyfi

Mae’r tirweddau yn y rhan yma o ganolbarth Cymru’n ymestyn o weunydd a mawnogydd yr ucheldir i lawr i aber llydan a thwyni tywod a thraethau, gan gynnwys coetir llydanddail, coedwig gonwydd, tir amaeth, morfa a mawnog lawr gwlad helaeth, sy’n golygu ei fod yn hafan i fywyd gwyllt.

Mae dyfrgwn yn nofio yn yr afonydd, daw gweilch y pysgod i nythu, mae barcutiaid coch yn hawdd eu gweld ac mae podiau o ddolffiniaid yn ymweld â’r traethau’n rheolaidd; ceir gwarchodfeydd natur sy’n berffaith ar gyfer gwylio adar gan gynnwys prosiect Gweilch y Pysgod Dyfi a gwarchodfa RSPB.

Mae Biosfferau UNESCO yn ysbrydoli cymunedau i gydweithio wrth greu dyfodol y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono, gan gysylltu pobl â natur a threftadaeth ddiwylliannol wrth gryfhau economïau lleol.

 

 

Man perffaith ar gyfer gwyliau yw canolbarth Cymru gyda’i lwybrau cerdded hardd fel Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Glyndŵr a digon i’r rheini sy’n hoffi anturio fel beicio mynydd a syrffio.

 

 

 

 

Ceir llawer o wahanol fathau o leoedd i aros, mewn amrywiaeth o leoliadau, fel tref brifysgol fywiog Aberystwyth, tref farchnad Machynlleth neu draethau gwyliau’r Borth ac Aberdyfi.

the river Dyfi
Aberdyfi
geese on the Dyfi
Moel y Llyn Cairn
Machynlleth Dyfi Bridge
Starlings - Aberystwyth pier

Mae'n gymunedau dwyieithog yn falch o'r statws Biosffer Dyfi, wedi'i rhoi gan UNESCO yn 2009.

Gwarchodfa Biosffer UNESCO

Mae statws Gwarchodfa Biosffer UNESCO yn cynnig cydnabyddiaeth a chyfle i’r ardal yn hytrach na chyfyngiadau, oherwydd mai gwirfoddol yn hytrach na statudol yw’r dynodiad. Mae pobl, busnesau a sefydliadau’n manteisio arno drwy gymryd rhan. Nid oes unrhyw gyllid gan y Bartneriaeth gydlynol ei hun ond gall partneriaid weithredu yn ei enw. Weithiau maent yn dod ag adnoddau newydd i’r ardal megis cyllid ac arbenigedd.

Datblygu Cynaliadwy
Horse logging

Mae Gwarchodfeydd Biosffer yn edrych yn lleol ar sut gall bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cydnerth gael eu seilio ar amgylcheddau iach.

Addysg ac Ymchwil
Aberystwyth MSc students

Mae Gwarchodfeydd Biosffer yn edrych yn lleol ar sut gall bywoliaethau cynaliadwy, diwylliannau bywiog ac economïau cydnerth gael eu seilio ar amgylcheddau iach.

Newyddion

Yr Adolygiad Cyfnodol

Daeth yr ardal yn Fïosffer yn 2009, ac yn ôl rheoliadau UNESCO rhaid cynnal arolwg 10 mlynedd ohono yn awr er mwyn cadw ei statws.

Gallwch weld y dogfennau yma.

Ac edrych trwy'r 'StoryMap' Biosffer Dyfi ar-lein (Saesneg yn unig)

************

Cyfle i weithio gyda ffermwyr, tyddynwyr a'r gymuned ym Miosffer Dyfi:

SWYDDOG PROSIECT

Prosiect Dolau Dyfi

Lleoliad: Machynlleth

Cyflog: £25,500 (Cyfwerth â Llawn Amser) gyda chyfraniad Pensiwn 0 5% 

Tymor y Contract: 30 Mehefin 2022

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 8 Tachwedd

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Julia Korn neu Jan Sherry: admin@pontcymru.org

neu: www.pontcymru.org

Tywydd yn y Biosffer
Sustainable woodland management photo Jony Eastaby